Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Lacie Jones
Mental Health Services / Gwasanaethau iechyd meddwl
Charities and fund-raising / Elusennau a chodi arian
Education / Addysg
My name is Lacie Jones; I am a passionate and hands-on young person, and I want to represent the voices of young people in my community and advocate for positive change. Throughout my life, I have been actively involved in various leadership roles, such as leading a social action care packages project. These volunteering opportunities have given me the skills to listen, understand, and better my community. In addition to these experiences, I am deeply involved in Young Carers, Youth Cymru where I have supported projects that aim to improve my community. I care about education, mental health, charities and fundraising, which drives me to seek solutions that benefit all young people. As a Young Carer, I will be able to bring my life experiences and a fresh perspective to the role. I love collaborating with other members, engaging with my peers, and working towards addressing issues that matter most to young people in Wales. I am dedicated to ensuring their voices are heard in decisions
Lacie Jones ydw i; rydw i’n berson angerddol ac ymarferol, a dw i eisiau cynrychioli lleisiau pobl ifanc yn fy nghymuned ac eirioli dros newid positif. Drwy fy mywyd dw i wedi cymryd rhan mewn rolau arwain amrywiol, fel arwain prosiect pecynnau gofal gweithredu cymdeithasol. Mae’r cyfleoedd gwirfoddoli hyn wedi rhoi’r sgiliau i mi wrando, deall a gwella fy nghymuned. Yn ogystal â’r profiadau hyn, dw i’n cymryd rhan fawr yn Young Carers, Youth Cymru, lle rydw i wedi cefnogi prosiectau sy’n ceisio gwella’r gymuned. Mae addysg, iechyd meddwl ac elusennau a chodi arian yn bwysig iawn i mi, a dyma sy’n fy ngyrru i chwilio am ddatrysiadau da i bob person ifanc. Fel Gofalwr Ifanc, byddaf yn gallu defnyddio fy mhrofiadau bywyd a dod â safbwynt newydd i’r rôl. Dw i wrth fy modd yn cydweithio ag aelodau eraill, cysylltu â chyd-ddisgyblion a gweithio tuag at ddatrys problemau sydd fwyaf pwysig i bobl ifanc yng Nghymru. Dw i’n benderfynol o wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn penderfyniadau.