Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Heddwyn W Angell

Key Issue 1

Education - lack of funding / Addysg - diffyg cyllid

Key Issue 2

Healthcare - waiting times / Gofal iechyd - rhestrau aros

Key Issue 3

Food - public places / Bwyd - mannau cyhoeddus

CANDIDATE STATEMENT

I notice the problems in my community & want to help make changes. I think being in the Welsh Youth Parliament would give me the chance to talk about the problems I see & discuss solutions. I see the impact of inappropriate funding for schools every day. We have classrooms which are unsafe to use, we sometimes don't have enough money for paper & we don't have adequate sports equipment. We only have one childhood & we are missing out. As a young carer I have developed good independence & problem solving abilities, as well as being able to think about other people's needs. I want to find positive solutions for problems & put ideas into action. I am interested in other people's views & try to be open to the idea of changing my own. I would work hard to make young Welsh voices heard.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n sylwi ar y problemau yn fy nghymuned ac eisiau gwneud newidiadau. Dw i’n meddwl y byddai Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i mi siarad am y problemau dw i’n eu gweld a thrafod atebion. Dw i’n gweld effaith cyllid amhriodol i ysgolion bob dydd. Mae gyda ni ystafelloedd dosbarth sy’n anniogel i’w defnyddio, weithiau does dim digon o arian gyda ni ar gyfer papur a does dim digon o gyfarpar chwaraeon gyda ni. Dim ond un plentyndod sy gyda ni ac rydyn ni’n colli cyfle. Fel gofalwr ifanc, dw i wedi datblygu annibyniaeth dda a galluoedd datrys problemau, yn ogystal â gallu meddwl am anghenion pobl eraill. Dw i eisiau dod o hyd i atebion cadarnhaol i broblemau a rhoi syniadau ar waith. Mae gen i ddiddordeb ym marn pobl eraill a dw i’n trio bod yn agored i newid fy marn fy hun. Byddwn i’n gweithio’n galed i sicrhau bod lleisiau ifanc Cymru yn cael eu clywed.