Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Key Issue 1

Welsh Language/Y Gymraeg

Key Issue 2

Education/Addysg

Key Issue 3

Mental Health service/Gwasanaethau iechyd meddwl

CANDIDATE STATEMENT

As a passionate advocate for youth voices, I want to be a member of the Welsh Youth Parliament to ensure that young people in my community are heard and represented. I believe that every young person deserves a platform to express their views on issues that affect them, from mental health to education. Being a young person in todays society isn’t easy and I would like to be able to make the lives of the younger generation more manageable. This is especially important to me as a 2nd generation, welsh speaking immigrant. To engage my peers, I will host regular consultations, using social media and local events.This will help me understand their concerns and ensure their voices are reflected in parliamentary discussions.I am committed to represent and to voice the youth's opinions. My experience in community volunteering and leadership roles has equipped me with the skills to advocate effectively and collaborate with others.I am organised, dedicated, and passionate about making a difference

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel eiriolwr angerddol dros leisiau pobl ifanc, rwyf am fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i sicrhau bod pobl ifanc yn fy nghymuned yn cael eu clywed a’u cynrychioli. Rwy’n credu bod pob person ifanc yn haeddu llwyfan i fynegi barn ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw, o iechyd meddwl i addysg. Nid yw bod yn berson ifanc yn y gymdeithas heddiw yn hawdd a hoffwn allu gwneud bywydau'r genhedlaeth iau yn haws. Mae hyn yn arbennig o bwysig i mi fel mewnfudwr ail genhedlaeth sy’n siarad Cymraeg. Er mwyn cyfathrebu â fy nghyfoedion, byddaf yn cynnal ymgynghoriadau rheolaidd, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau lleol. Bydd hyn yn fy helpu i ddeall eu pryderon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu hadlewyrchu mewn trafodaethau seneddol. Rwyf wedi ymrwymo i gynrychioli ac i leisio barn pobl ifanc. Mae fy mhrofiad mewn rolau arwain a gwirfoddoli cymunedol wedi rhoi'r sgiliau i mi eirioli'n effeithiol a chydweithio ag eraill. Rwy'n drefnus, ymroddgar ac angerddol dros wneud gwahaniaeth.