Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Key Issue 1

Mental health awareness / Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl

Key Issue 2

Education on racism / Addysg ar hiliaeth

Key Issue 3

More youth provisions / Mwy o ddarpariaethau ieuenctid

CANDIDATE STATEMENT

A former member of the WYP, I know that I have everything needed to become a member again. I have gained the experience, the knowledge and the understanding to return as a better example of an effective member. I understand that my passion for politics is constant and that I must continue to strive to be a voice for the voiceless. Being a member of a CLP gives me great advantage in communicating with the youth of my area. I would initiate meetings with those concerned on how I can reflect them. And take in their concerns in order for them to be heard. Confidence is a vital skill which I am well equipped. As well as my communication skills and my resilience which I learned from the WYP. Lastly, my experience shows my skills in awareness, especially in events across the globe and my country.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel cyn-aelod o SIC, dw i’n gwybod bod gen i bopeth sydd ei angen i fod yn aelod eto. Dw i wedi magu’r profiad, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddychwelyd fel esiampl well o aelod effeithiol. Dw i’n deall bod fy angerdd dros wleidyddiaeth yn gyson a bod rhaid i mi barhau i ymdrechu i fod yn llais i’r rhai heb lais. Fel aelod o’r Blaid Lafur Etholaethol, dw i’n cael mantais fawr wrth gyfathrebu â phobl ifanc fy ardal. Byddwn i’n cychwyn cyfarfodydd â’r rhai dan sylw ar sut dw i'n gallu eu cynrychioli a thynnu sylw at eu pryderon iddyn nhw gael eu clywed. Mae hyder yn sgil hanfodol ac mae gen i ddigon o hyder, yn ogystal â fy sgiliau cyfathrebu a fy nghydnerthedd a ddysgais i o SIC. Yn olaf, fy mhrofiad sy’n dangos fy sgiliau mewn ymwybyddiaeth, yn enwedig mewn digwyddiadau ledled y byd a fy ngwlad.