Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Otitooluwakiiti (Kiiti) Omole

Key Issue 1

Environment / Yr Amgylchedd

Key Issue 2

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Key Issue 3

Housing / Tai

CANDIDATE STATEMENT

I am eager to participate in the Welsh Youth Parliament to represent the voices of young people. I believe I would be a valuable member of the Welsh Youth Parliament due to my strong communication skills, a keen sense of empathy and good ability to generate innovative ideas. As a young person, my primary concerns revolve around housing, the reduction of plastic usage, and mental health. I am concerned about homelessness and the effect the fear of being homeless has on people. We need more control over plastic usage, a continued concern for keeping the community clean and animals safe. Also, I would like young people to have better access to mental health support. I will partner with local organisations and schools to organise community events for young people so that I can learn more about their concerns. I will also conduct social media surveys to help young people express their thoughts. A vote for me would enable me to push for meaningful change and a better future for young people.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n awyddus i gymryd rhan yn Senedd Ieuenctid Cymru i gynrychioli lleisiau pobl ifanc. Dw i’n credu y bydden i’n aelod gwerthfawr o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy sgiliau cyfathrebu cryf, synnwyr da o empathi a’r gallu i feddwl am syniadau arloesol. Fel person ifanc, mae fy mhrif bryderon am dai, lleihau’r defnydd o blastig ac iechyd meddwl. Dw i’n poeni am ddigartrefedd ac effaith ofni digartrefedd ar bobl. Mae angen i ni allu rheoli defnydd o blastig, pryder parhaus ar gyfer cadw’r gymuned yn lan ac anifeiliaid yn ddiogel. Hefyd, dw i eisiau i bobl ifanc gael cymorth iechyd meddwl yn haws. Dw i’n mynd i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol ac ysgolion i drefnu digwyddiadau cymunedol i bobl ifanc fel fy mod i’n gallu dysgu mwy am eu pryderon. Dw i’n mynd i gynnal arolygon ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl ifanc fynegi barn. Byddai pleidleisio drosof fi yn helpu i wthio am newid pwysig a dyfodol gwell i bobl ifanc.