Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Caitlin Anna Stock

Mater o Bwys 1

Environmental conservation / Cadwraeth amgylcheddol

Mater o Bwys 2

Teenage Health and Wellbeing / Iechyd a llesiant pobl ifanc yn eu harddegau

Mater o Bwys 3

Welsh Language and Culture / Diwylliant Cymru a’r Gymraeg

CANDIDATE STATEMENT

I wish to be a member of the Welsh Youth Parliament (WYP) as it is an opportunity to represent and voice the concerns of young adults in my area. I know many people like me, have felt helpless or confused about the serious issues that are happening around them. I would utilise social media to engage and consult with my peers to find out what matters are actually important to them.
I am a naturally outgoing person and enjoy meeting new people. I can converse confidently in both English and Welsh and have lots of experience in public speaking.
During high school, I was an active member of the student council and was often chosen to meet with guests visiting the school
The reason why you should vote for me is due to the absolute sincerity and passion I have for my chosen causes and other issues that are relevant and prominent in our society. By voting for me you will be voting to be heard and well informed on things we need to know

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwyf am fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, gan ei fod yn gyfle i gynrychioli oedolion ifanc fy ardal, a rhoi llais i’w pryderon. Gwn fod llawer o bobl fel fi wedi teimlo'n ddiymadferth neu'n ddryslyd ynghylch y materion difrifol sy'n digwydd o'u cwmpas. Byddwn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu ac ymgynghori â’m cyfoedion, i ddarganfod pa faterion sydd o bwys iddynt mewn gwirionedd.
Rwy'n berson naturiol allblyg, ac yn mwynhau cwrdd â phobl newydd. Gallaf sgwrsio’n hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae gennyf lawer o brofiad o siarad cyhoeddus.
Yn ystod yr ysgol uwchradd, roeddwn yn aelod gweithgar o gyngor y myfyrwyr, a chefais fy newis yn aml i gwrdd â gwesteion a oedd yn ymweld â'r ysgol.
Y rheswm pam y dylech chi bleidleisio i mi yw'r didwylledd a'r angerdd llwyr sydd gennyf tuag at yr achosion a ddewisais, a materion eraill sy'n berthnasol ac yn amlwg yn ein cymdeithas. Drwy bleidleisio i mi, byddwch yn pleidleisio i gael eich clywed ac i fod yn wybodus iawn ar bethau y mae angen i ni wybod.