Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Elizabeth Bartlett

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Environment- People and Planet / Yr Amgylchedd – Pobl a’r Blaned

Mater o Bwys 2

Youth Voice / Llais Ieuenctid

Mater o Bwys 3

Transport / Trafnidiaeth

DATGANIAD YMGEISYDD

Why should you vote for me? I am passionate about helping with and listening to people’s issues; I want to make an impact. I am well-spoken, confident and intelligent and I care about what you have to say. As your Youth Parliament Member I would amplify your voice. What issues are you facing?
I am experienced with public speaking, debating and research. As a Young Wales volunteer I have chaired discussions and participated in a peer research project, where I have learnt to how to understand peoples opinions and explain them to a wider audience. I am also a part of many advisory groups, that focus on topics like mental health, education, democracy, LGBTQ+ issues and the environment, and frequently address government. I have good interpersonal skills, I run workshops teaching how to mend clothes and I'm carbon literate.
I care about many issues, but I am most interested in what is affecting you; I'll listen to your problems and address the Senedd accordingly!

DATGANIAD YMGEISYDD

Pam ddylech chi bleidleisio drosof fi? Dw i’n angerddol dros helpu a gwrando ar broblemau pobl; dw i eisiau cael effaith. Dw i’n siarad yn dda, yn hyderus ac yn glyfar ac mae beth sydd gennych chi i’w ddweud yn bwysig i mi. Fel eich aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, bydden i’n codi eich llais. Pa broblemau sydd gennych chi?
Mae gen i brofiad yn siarad cyhoeddus, yn dadlau ac yn gwneud gwaith ymchwil. Fel gwirfoddolwr Cymru Ifanc, dw i wedi cadeirio trafodaethau a chymryd rhan mewn prosiect ymchwil cyfoedion, ble dysgais sut i ddeall barn pobl ac egluro’r farn i gynulleidfa ehangach. Dw i hefyd yn rhan o lawer o grwpiau cynghori sy’n canolbwyntio ar bynciau fel iechyd meddwl, addysg, democratiaeth, LHDTQ+ a’r amgylchedd, a dw i’n aml yn mynd i’r afael â llywodraethu. Mae gen i sgiliau pobl da, dw i’n cynnal gweithdai addysgu ar sut i drwsio dillad a dw i’n deall materion carbon. Mae llawer o bethau’n bwysig i mi ond fy niddordeb pennaf yw beth sy’n effeithio arnoch chi; dw i’n awyddus i wrando ar eich problemau a’u trafod yn y Senedd!