Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Jasmine Quick

Mater o Bwys 1

Education/ Addysg

Mater o Bwys 2

Mental Health Services/Gwasanaethau iechyd meddwl

Mater o Bwys 3

Environment/Yr amgylchedd

DATGANIAD YMGEISYDD

Hello, my name is Jasmine Quick, and I believe I should be part of the Welsh Youth Parliament because I have always been interested in making sure things are fair, sharing my ideas with others, the outdoors, communication and my community. For example, I have been on multiple organised litter picks in my area, and also often collect litter on days out at the beach or other beauty spots. I have taken part in presentations that involve speaking in front of my whole year group (roughly 150 students) and if there's a sports club, I'm there. Over the past year, I have been bumped up to top set for every subject. At first, I was worried about moving into top set maths, however it has quickly become one of my favorite subjects and I'd like to say I am good at it - I enjoy a challenge! I have a job working for my mum at her independent business (Driftwood Designs) every Saturday. The shop started two years after I was born, so I have grown up helping out and watching the business grow.

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, fy enw i yw Jasmine Quick, ac rwy’n credu y dylwn fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd bod gennyf ddiddordeb erioed mewn gwneud yn siŵr bod pethau’n deg, rhannu fy syniadau ag eraill, yr awyr agored, cyfathrebu a fy nghymuned. Er enghraifft, rwyf wedi bod ar nifer o sesiynau casglu sbwriel yn fy ardal, a hefyd yn aml yn casglu sbwriel ar ddiwrnodau allan ar y traeth neu fannau prydferth eraill. Rwyf wedi cymryd rhan mewn cyflwyniadau lle bu’n rhaid siarad o flaen fy ngrŵp blwyddyn gyfan (tua 150 o fyfyrwyr) ac os oes clwb chwaraeon, rydw i yno. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi cael fy symud i'r set uchaf ar gyfer pob pwnc. I ddechrau, roeddwn i'n poeni am symud i’r set uchaf mathemateg, ond buan y daeth yn un o fy hoff bynciau a hoffwn ddweud fy mod yn dda yn ei wneud - rwy'n mwynhau her! Mae gen i swydd yn gweithio i mam yn ei busnes annibynnol (Driftwood Designs) bob dydd Sadwrn. Dechreuodd y siop ddwy flynedd ar ôl i mi gael fy ngeni, felly rwyf wedi tyfu i fyny yn helpu ac yn gwylio'r busnes yn tyfu.