Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Environment / Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd meddwl

CANDIDATE STATEMENT

I think that I should be considered for the role of a Welsh Youth Parliament Member due to the strong opinions I have on education, and my belief that everybody deserves the opportunity to have access to the facilities that they need to succeed in life.
As a former Green Team vice chair, I'm very passionate about looking after the environment and the importance of spreading awareness. Mental health is a subject that isn't talked about enough. I have a relative of a similar age who is struggling and I feel like there should be more places where people have access to support.
I would make sure that voices are heard by firstly holding meetings to explain my role and how I can help, while giving students the chance to discuss their concerns. I would then give people the opportunity to speak to me privately if necessary. This year, I have been elected as year council in school by my fellow peers, this shows that they trust me to discuss issues on their behalf.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n meddwl dylen i gael fy ystyried ar gyfer rôl Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy marn gryf ar addysg, a dw i’n credu bod pawb yn haeddu cyfle i’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.
Fel cyn-ddirprwy gadeirydd Tîm Gwyrdd, dw i’n angerddol iawn am ofalu am yr amgylchedd a phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth. Mae iechyd meddwl yn bwnc sydd ddim yn cael ei drafod ddigon. Mae aelod o fy nheulu sydd o oed tebyg i mi yn ei chael hi’n anodd, a dw i’n teimlo dylen ni gael mwy o leoedd lle mae pobl yn gallu mynd i gael cymorth.
Dw i’n bwriadu gwneud yn siŵr bod lleisiau’n cael eu clywed drwy drefnu cyfarfodydd i egluro fy rôl a sut bydda’ i’n gallu helpu, a rhoi cyfle i ddisgyblion drafod eu pryderon. Bydden i’n rhoi cyfle i bobl siarad gyda fi’n breifat os oes angen. Eleni, dw i wedi cael fy ethol i’r cyngor blwyddyn yn yr ysgol gan fy nghyd-ddisgyblion, mae hyn yn dangos eu bod nhw’n ymddiried ynof fi i drafod materion ar eu rhan.