Gwybodaeth

Pwy all gofrestru?

I gofrestru i bleidleisio yn Etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, rhaid i ti fod rhwng 11 a 17 oed, a naill ai’n byw yng Nghymru neu’n cael dy addysg yma.

 

Beth sydd angen i ti ei wybod

I gofrestru bydd angen i ti roi dy enw, cyfeiriad e-bost, a chod post. Mae hefyd yn ddewisol i ti ddarparu rhif dy ffôn symudol, a ble rwyt ti’n cael dy addysg.

Unwaith y byddi di wedi anfon dy ffurflen gofrestru, byddi di’n cael e-bost i gadarnhau dy manylion a bydd angen i ti gadarnhau hyn erbyn 20 Tachwedd.

Ar 21 Hydref 2024, byddi di’n gallu gweld yr ymgeiswyr fydd yn sefyll i fod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru yn dy ardal. Byddi di’n gallu darllen mwy amdanynt a phenderfynu dros bwy i bleidleisio. 

Mae'r pleidleisio yn agor ar 4 Tachwedd ac yn cau ar 25 Tachwedd, 2024.