Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Monty Kempster

Key Issue 1

Mental Heath Services/Gwasanaethau iechyd meddwl

Key Issue 2

Education/Addysg

Key Issue 3

Environment/Yr amgylchedd

CANDIDATE STATEMENT

Hello, my name is Monty. I am 11 years old. I am Autistic, ADHD and dyslexic. I would like to represent my community and help the Welsh government support other children like me with disabilities.

I would like to help support people with mental health issues, I am worried about suicide as there were 356 suspected suicides in Wales from the 1st April 2022 - 31 March 2023. I would like to help make these numbers drop.

I would like to help support people with additional needs and mental heath problems in school. I would like to find ways to help fund this support.

I am interested in the environment and would like to decrease the amount of litter in public areas. I would like to organise local litter picking days.

I like talking to other people at school about their concerns and I am a member of Inclusibility Swansea, so I get to speak to many disabled people and their parents in my local community.

I am friendly and approachable, I am good at organising people.

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, fy enw i yw Monty. Rwy'n 11 oed. Rwy'n awtistig, ADHD a dyslecsig. Hoffwn i gynrychioli fy nghymuned a helpu Llywodraeth Cymru i gefnogi plant eraill fel fi ag anableddau.

Hoffwn i helpu i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, rwy’n poeni am hunanladdiad gan fod 356 o hunanladdiadau posibl yng Nghymru rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Hoffwn i helpu i wneud i'r niferoedd hyn ostwng.

Hoffwn i helpu i gefnogi pobl ag anghenion ychwanegol a phroblemau iechyd meddwl yn yr ysgol. Hoffwn i ddod o hyd i ffyrdd o helpu i ariannu’r cymorth hwn.

Mae gen i ddiddordeb yn yr amgylchedd a hoffwn i leihau faint o sbwriel sydd mewn mannau cyhoeddus. Hoffwn i drefnu diwrnodau codi sbwriel lleol.

Rwy’n hoffi siarad â phobl eraill yn yr ysgol am eu pryderon ac rwy’n aelod o InclusAbility Swansea, felly rwy’n cael siarad â llawer o bobl anabl a’u rhieni yn fy nghymuned leol.

Rwy'n gyfeillgar ac yn hawdd siarad â mi, rwy'n dda am drefnu pobl.