Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Key Issue 1

Social/academic mental health / Iechyd meddwl cymdeithasol/academaidd

Key Issue 2

Increased STEM opportunities/Mwy o gyfleoedd STEM

Key Issue 3

Funding of scientific research/Cyllido ymchwil gwyddonol

CANDIDATE STATEMENT

I am interested in becoming a WYP member to drive action promoting Welsh science and to create a more sustainable and safe future.

I think it is wrong that the science youth of today is declining due to underappreciated issues that elicit a lack of zeal and potential in the field. Whether this be from the detriment of a competitive school environment, the inability to pursue activities and careers in STEM, or the paucity of funding given to scientific research, young people are being dissuaded from their passions for the planet and humanity. By advocating for better provisions and mental health care for young people, and for economic support of the scientific community, I hope to empower an informed and curious generation.

As an honest, pragmatic and ambitious candidate who genuinely cares about the prospect of Welsh science and technology and the well-being of others, I will ensure that young people are represented with a credible and reliable voice to enforce political change.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae gen i ddiddordeb mewn dod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid i wneud i bethau ddigwydd yn hybu gwyddoniaeth Gymreig a chreu dyfodol mwy cynaliadwy a diogel.

Dw i’n meddwl bod hi’n beth drwg bod llai o wyddonwyr ifanc heddiw oherwydd problemau sy’n arwain at ddiffyg potensial yn y maes. Efallai bod hyn yn digwydd oherwydd diffyg cystadlu yn yr ysgol, methu cymryd rhan mewn gweithgareddau a gyrfaoedd STEM neu ddiffyg arian ar ymchwil gwyddonol, ond beth bynnag yw’r rheswm mae pobl ifanc yn symud oddi wrth angerdd dros y blaned a dynoliaeth. Drwy gefnogi darpariaethau gwell a gofal iechyd meddwl i bobl ifanc, a chefnogaeth ariannol i’r gymuned wyddonol, dw i’n gobeithio grymuso cenhedlaeth llawn gwybodaeth a chwilfrydig.

Fel rhywun onest, realistig ac uchelgeisiol sydd wir yn becso am y syniad o wyddoniaeth a thechnoleg Gymreig a lles pobl eraill, bydda’ i’n gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael eu cynrychioli gyda llais credadwy a dibynadwy i roi newidiadau gwleidyddol ar waith.