Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Samuel Owen Rees
Dangerous items (knife crime) / Eitemau peryglus (troseddau cyllyll)
Education / Addysg
Healthcare / Gofal Iechyd
I believe that I would make a fantastic member of the Welsh Youth Parliament because I want to help my community and city by voicing their opinions and judgments on what they want to happen in their parliament. In my school, clubs, friends and family, I will always be asking and listening to their worries and concerns about healthcare, education and environment. I am a hard worker. I am determined and will archive my goal no matter whatever it is and that is why people should vote for we because I will voice people’s thoughts and get things done. I am head chorister of Newport Cathedral which means I have to lead young choir members, teach and help them in their singing journey when they can learn life-changing skills that will help them on their journey. I have also achieved a Merit in Grade 5 Piano, a Distinction in Grade 3 Trumpet and a Distinction in the Silver award Royal School of Church Music singing exam which shows my determination to do anything, and whatever I set my mind to
Dw i’n credu y bydden i’n aelod ffantastig o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i eisiau helpu fy nghymuned a’r ddinas drwy rannu eu barn ar beth maen nhw eisiau i ddigwydd yn y senedd. Yn fy ysgol, clybiau, ffrindiau a theulu, dw i’n gofyn ac yn gwrando ar eu pryderon drwy’r amser am ofal iechyd, addysg a’r amgylchedd. Dw i’n gweithio’n galed. Dw i’n benderfynol a dw i’n mynd i gyflawni’r nod dim ots beth yw e, a dyna pam dylai pobl bleidleisio drosof fi oherwydd dw i’n mynd i rannu barn pobl a gwneud i bethau ddigwydd. Fi yw prif ganwr cor Eglwys Gadeiriol Casnewydd sy’n golygu bod angen i mi arwain aelodau iau o’r cor, eu dysgu nhw a’u helpu nhw ddysgu sgiliau fydd yn newid bywyd ac yn eu helpu nhw ar eu taith. Mae gen i hefyd dystysgrif Teilyngdod mewn Piano Gradd 5, tystysgrif Anrhydedd mewn Trwmped Gradd 3 a thystysgrif Anrhydedd yng ngwobr arian arholiad canu Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwys sy’n dangos fy mod i’n benderfynol i wneud unrhyw beth dw i eisiau ei wneud.