Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Augustin Alecu

Key Issue 1

Education/Addysg

Key Issue 2

Transport/Trafnidiaeth

Key Issue 3

Food/Bwyd

CANDIDATE STATEMENT

Coming from a working class background, I'm not, perhaps, an obvious choice to many people for Welsh Youth Parliament Member. But where I lack in obviousness I make up for in qualities. As a fellow student and as someone who wasn't born rich I understand the struggles of my generation. I have challenged expectations before, by becoming one of the highest achieving students at my school, and I have shown that I can bring invaluable skills and always give my utmost for the task at hand.
A natural, honest, and energetic leader I can and will lead a group to success. I am also an easy person to communicate with and will gladly receive and hand out constructive criticism. With no shortage of success so far, I am confident that I will not disappoint! With a strong sense of morality, I would never lie to the public.
As Welsh Youth Parliament Member I will continually stress the importance of education, as it is the greatest equaliser between the lower and upper classes.
VOTE AUGUSTIN

DATGANIAD YMGEISYDD

Yn dod o gefndir dosbarth gweithiol, nid wyf i lawer o bobl, efallai, yn ddewis amlwg i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Ond er fy niffyg amlygrwydd mae fy rhinweddau yn gwneud yn iawn am hynny. Fel cyd-fyfyriwr ac fel rhywun na chafodd ei eni'n gyfoethog rwy'n deall brwydrau fy nghenhedlaeth. Rwyf wedi herio disgwyliadau o’r blaen, trwy ddod yn un o’r myfyrwyr sy’n cyflawni orau yn fy ysgol, ac rwyf wedi dangos y gallaf ddod â sgiliau amhrisiadwy ac rwyf bob amser yn gwneud fy ngorau glas i gyflawni’r dasg dan sylw. Yn arweinydd naturiol, gonest ac egnïol, gallaf arwain grŵp yn llwyddiannus. Rwyf hefyd yn berson hawdd i gyfathrebu ag ef ac yn falch o dderbyn a rhoi beirniadaeth adeiladol. Heb unrhyw brinder llwyddiant hyd yn hyn, rwy’n hyderus na fyddaf yn siomi! Gydag ymdeimlad cryf o foesoldeb, ni fyddwn byth yn dweud celwydd wrth y cyhoedd.
Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru byddaf yn pwysleisio pwysigrwydd addysg yn barhaus, gan mai dyma sy’n sicrhau’r cydraddoldeb mwyaf rhwng y dosbarthiadau is ac uwch.
PLEIDLEISIWCH DROS AUGUSTIN