Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Shania Mighten
Education/Addysg
Mental health services/Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Healthcare/Gofal Iechyd
I would like to become a youth Welsh parliament member to ensure that every child/teen gets the help they need. Alot of people struggle going to school and learning due to disabilities and bad mental health and some schools don’t provide help around Wales which does not improve the situation whatsoever because they barely give them breaks during lesson which some people need due to short attention spans and that they can’t stay in the same setting for too long plus they’re not allowed to go to the bathroom during lesson. Another reason is that some people have sensory issues and don’t feel comfortable in school uniform since they prefer to wear their own clothes which schools don’t allow and that will affect the students learning. Even though my school is working towards everything being fair, some schools are not even close to that goal which could affect grades which then they look down on the students if they have bad grades. That is why I want to be a welsh youth parliament member
Hoffwn ddod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i sicrhau bod pob plentyn/arddegwr yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae llawer o bobl yn cael trafferth mynd i’r ysgol a dysgu oherwydd anableddau ac iechyd meddwl gwael. Dyw rhai ysgolion ddim yn darparu cymorth ledled Cymru a dyw hynny ddim yn gwella’r sefyllfa o gwbl oherwydd prin y maen nhw’n rhoi seibiannau iddyn nhw yn ystod gwersi. Mae angen y rhain ar rai pobl gan fod ganddyn nhw rychwantau sylw byr, dydyn nhw ddim yn gallu aros yn yr un lleoliad yn rhy hir a dydyn nhw ddim yn cael mynd i'r tŷ bach yn ystod y wers. Rheswm arall yw bod gan rai pobl broblemau synhwyraidd a dydyn nhw ddim yn teimlo'n gyfforddus yn eu gwisg ysgol gan fod yn well ganddyn nhw wisgo eu dillad eu hunain. Dyw ysgolion ddim yn caniatáu hynny a bydd hynny'n effeithio ar ddysgu'r myfyrwyr. Er bod fy ysgol yn gweithio i sicrhau bod popeth yn deg, dyw rhai ysgolion ddim hyd yn oed yn agos at y nod hwnnw a allai effeithio ar farciau. Yna, maen nhw’n edrych i lawr ar y myfyrwyr os oes ganddyn nhw farciau gwael. Dyna pam dw i eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.