Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Chelsea Elias
Mental Health services/Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Healthcare/Gofal Iechyd
Environment/Yr Amgylchedd
I am passionate about becoming a Welsh Youth Parliament Member because I believe every young person deserves a voice, especially regarding mental health. At 16, I founded my own mental health support group, which has empowered local youth to share their experiences and seek help. Recently, I was honored to win the Young Volunteer of the Year award from CVS for my work with a mental health charity, where I also serve as a youth advisor.
I am committed to consulting with young people in my area through surveys, focus groups, and community events to ensure their voices are heard in the Senedd. By advocating for better mental health services and education, I aim to raise awareness and reduce stigma.
You should vote for me because I bring both experience and passion to this role. My work in the community has equipped me with the skills to listen, collaborate, and advocate effectively. Together, we can create a Wales where mental health is prioritised and every young person feels supported
Dw i’n angerddol dros ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n credu bod pob person ifanc yn haeddu llais, yn enwedig o ran iechyd meddwl. Yn 16 oed, sefydlais fy ngrŵp cymorth iechyd meddwl fy hun, sydd wedi grymuso pobl ifanc leol i rannu eu profiadau a cheisio cymorth. Yn ddiweddar, cefais y fraint o ennill gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn gan CVS am fy ngwaith gydag elusen iechyd meddwl, lle dw i hefyd yn gwasanaethu fel cynghorydd ieuenctid.
Dw i wedi ymrwymo i ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal drwy arolygon, grwpiau ffocws, a digwyddiadau cymunedol i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn y Senedd. Drwy eiriol dros well gwasanaethau iechyd meddwl ac addysg, fy nod yw codi ymwybyddiaeth a lleihau stigma.
Dylech bleidleisio drosta i oherwydd fy mod i’n dod â phrofiad ac angerdd i'r rôl hon. Mae fy ngwaith yn y gymuned wedi rhoi'r sgiliau i mi wrando, cydweithio ac eirioli'n effeithiol. Gyda’n gilydd, gallwn greu Cymru lle mae iechyd meddwl yn cael ei flaenoriaethu a lle mae pob person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi.