Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Leon Luis-Arnesto Alvarez-Collinson
The environment/conservation / Yr amgylchedd/cadwraeth
Making agriculture sustainable / Gwneud amaeth yn gynaliadwy
Education of young people / Addysgu pobl ifanc
I would like the opportunity to become a youth MP because I believe that it is integral that we listen to the voices of young people in today's society and I think that I am the ideal person to ensure that their voices are heard.
I am certain that I would be a good choice for this role because I am a confident public speaker who has competed in the rotary youth speaks competition two years in a row, I am experienced in ensuring that my peers views are heard as have spent two years on the school council and I am capable of handling responsibility and leadership as I am currently head boy of my school. I am also passionate about caring for the environment and believe it should be our top priority for today's society.
Voting for me as a youth MP would mean that not a single voice in my area would be left unheard. I strongly believe that everyone should have a say in how their country is run, especially the future generation. My goal is to make this world a better place for my peers.
Dw i eisiau cael cyfle i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n credu ei bod hi’n hanfodol gwrando ar leisiau pobl ifanc yng nghymdeithas heddiw, a dw i’n meddwl mai fi yw’r person delfrydol i wneud yn siŵr bod y lleisiau’n cael eu clywed.
Dw i’n gwybod y bydden i’n ddewis da ar gyfer y rôl oherwydd dw i’n hyderus wrth siarad yn gyhoeddus ac wedi cystadlu mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus ieuenctid ddwywaith, mae gen i brofiad mewn gwneud yn siŵr bod barn fy nghyd-ddisgyblion yn cael ei chlywed oherwydd fy amser ar y cyngor ysgol a dw i’n gallu delio â chyfrifoldeb ac arweinyddiaeth oherwydd fi yw prif fachgen fy ysgol. Dw i hefyd yn angerddol am ofalu am yr amgylchedd, a dw i’n credu mai dyna ddylai fod yn brif flaenoriaeth i gymdeithas heddiw.
Byddai pleidleisio drosof fi fel aelod o’r senedd ieuenctid yn golygu bod pob llais yn yr ardal yn cael ei glywed. Dw i’n credu’n gryf y dylai pawb gael dweud eu dweud ar y ffordd mae’r wlad yn cael ei rhedeg, yn enwedig cenhedlaeth y dyfodol. Fy nod yw gwneud y byd yn lle gwell i fy nghyd-ddisgyblion.