Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Ioan Armstrong

Key Issue 1

Education / Addysg

Key Issue 2

Healthcare / Gofal iechyd

Key Issue 3

Housing / Tai

CANDIDATE STATEMENT

My name is Ioan, I'm 16, I live in Llanelli and, I study at Coleg Sir Gar. I want to be a Welsh Youth Parliament member because I believe the voices of young people deserve to be at the heart of decisions affecting our future. Education, healthcare, and housing are 3 areas I believe need urgent attention, to ensure a better future for all young people in Wales.

If elected, I'll consult with my peers by organising discussions in schools, colleges, & online platforms. I'll ensure that everyone has the opportunity to share their concerns and ideas, regardless of their background and circumstance. All opinions will be my priority.

You should vote for me because I'm approachable, committed and ready to make a real difference for the youth & children of Llanelli. I've realised the importance of responsibility & commitment, by having a part-time job, and I'm ready to apply these skills and use this platform to amplify everyone's voices, and advocate for changes that matter to us all.

DATGANIAD YMGEISYDD

Ioan ydw i, dw i’n 16 oed, dw i’n byw yn Llanelli ac yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr. Dw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n credu bod pobl ifanc yn haeddu bod yng nghanol y penderfyniadau sy’n effeithio ar ein dyfodol. Mae addysg, gofal iechyd a thai yn 3 faes dw i’n meddwl sydd angen sylw brys er mwyn sicrhau dyfodol gwell i bobl ifanc Cymru.

Os caf fy ethol, dw i’n awyddus i drafod gyda fy nghyd-ddisgyblion drwy drefnu sgyrsiau mewn ysgolion, colegau a llwyfannau ar-lein. Dw i’n mynd i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i rannu pryderon, dim ots beth yw eu cefndir ac amgylchiadau. Bydd pob barn yn flaenoriaeth i mi.

Dylech chi bleidleisio drosof fi oherwydd mae’n hawdd siarad â fi, dw i wedi ymrwymo a dw i’n barod i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc a phlant Llanelli. Dw i wedi sylweddoli pa mor bwysig yw cyfrifoldeb ac ymrwymiad drwy gael swydd ran amser, a dw i’n barod i ddefnyddio’r sgiliau hyn a’r platfform i uchafu lleisiau pawb, ac eirioli dros newidiadau sy’n bwysig i bob un ohonom.