Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Jack Henry Hamlin
Affordable housing for all/Tai fforddiadwy i bawb
Educational performance/Perfformiad addysgol
Sustainable energy sources/Ffynonellau ynni cynaliadwy
I want to be part of the Welsh Youth Parliament so I can help the young people of Wales to voice their concerns and ideas about issues that affect them like housing, education and the environment. The cost of living is a big problem, some people can’t afford rent after buying essentials like food and bills. Educational performance in Wales is lower than in England and this needs to change. We need more sustainable energy sources for Wales to reduce pollution. I would ensure that the voices of young people in the Cynon Valley are heard by speaking to them at school and in the community as well as using social media to gain their views. I think people should vote for me because I care about the issues affecting young people in Wales and want to be part of something that can help bring change. I have been part of several councils at school including Eco Council, School Council and Digital Council where I have shared ideas, represented my class and taken action to improve my school.
Rydw i eisiau bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn i mi allu helpu pobl ifanc Cymru i leisio’u pryderon a’u syniadau am faterion sy’n effeithio arnyn nhw fel tai, addysg a’r amgylchedd. Mae costau byw yn broblem fawr, lle nad yw rhai pobl yn gallu fforddio rhent ar ôl prynu hanfodion fel bwyd a biliau. Mae perfformiad addysgol Cymru yn is nag yn Lloegr ac mae angen i hyn newid. Rydym ni angen mwy o ffynonellau ynni cynaliadwy i Gymru er mwyn lleihau llygredd. Byddwn yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yng Nghwm Cynon yn cael eu clywed drwy siarad â nhw yn yr ysgol ac yn y gymuned, yn ogystal â defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael eu safbwyntiau. Rwy’n meddwl y dylai pobl bleidleisio i fi oherwydd fy mod yn poeni am y materion sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru ac am fod yn rhan o rywbeth a all helpu i ddod â newid. Rydw i wedi bod yn rhan o sawl cyngor yn yr ysgol, gan gynnwys y Cyngor Eco, y Cyngor Ysgol a’r Cyngor Digidol, lle rwyf wedi rhannu syniadau, cynrychioli fy nosbarth a chymryd camau i wella fy ysgol.