Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Key Issue 1

Mental Health Services/Gwasanaethau iechyd meddwl

Key Issue 2

Welsh Language/Y Gymraeg

Key Issue 3

Healthcare/Gofal iechyd

CANDIDATE STATEMENT

My name is Devlin Stanney and I am 15 years old. I study at Ysgol Dyffryn Aman and I am standing as a candidate for the youth parliamentary election this year. I believe that I can make a change to benefit our youth and this is what I will set out to achieve. If I were to be elected I would make sure that I represent as many voices of the community as possible, I would help push for the changes they believe are important to be considered by people higher up. In a world of corrupt people who only pretend to care about the ordinary person, I will make sure that everybody in my area can feel that they are represented by somebody who does care. I think that people should put faith in me because I feel that I can represent the youth’s issues and try my best to solve them. I believe that I am a suitable choice to be in this position as I represent my school on my school’s council, and I believe that I know the struggles and issues facing our youth population in today’s world.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Devlin Stanney ac rwy'n 15 oed. Rwy'n astudio yn Ysgol Dyffryn Aman ac yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y senedd ieuenctid eleni. Rwy’n credu y gallaf wneud newid er budd ein pobl ifanc a dyma’r hyn y byddaf yn bwriadu ei gyflawni. Pe bawn yn cael fy ethol byddwn yn gwneud yn siŵr fy mod yn cynrychioli cynifer o leisiau yn y gymuned â phosibl, a byddwn yn helpu i wthio am y newidiadau sy’n bwysig, yn eu barn nhw, i’w hystyried gan bobl bwysig. Mewn byd o bobl lygredig sydd yn esgus poeni am y bobl gyffredin, byddaf yn gwneud yn siŵr bod pawb yn fy ardal yn gallu teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli gan rywun sy’n poeni. Rwy’n meddwl y dylai pobl roi ffydd ynof oherwydd rwy’n teimlo y gallaf gynrychioli materion pobl ifanc a cheisio fy ngorau i’w datrys. Credaf fy mod yn ddewis addas i fod yn y rôl hon gan fy mod yn cynrychioli fy ysgol ar fy nghyngor ysgol, a chredaf fy mod yn gwybod am y brwydrau a’r problemau y mae ein pobl ifanc yn eu hwynebu yn y byd sydd ohoni.