Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Annabelle Betuma
Environment / Yr amgylchedd
Education / Addysg
Mental health services / Gwasanaethau iechyd meddwl
My name is Annabelle Betuma and I have recently turned 11 years old. Being part of the Welsh Youth Parliament for me, would mean standing up for the issues that society may feel unable to make a difference in. Society needs to take notice of our environment and education system, now. For the past 3 years I have been a part of my schools eco-committee and spent one year as a member of my schools Senedd. During this time, I have visited Parliament in London; meeting MP Jo Stevens, planted multiple trees, picked litter in local communities and hosted presentations in my school. Education is more than just a place to learn, it is a place to be understood and accepted. That’s why access to education is important to me. Being a young carer for my brother, I want to stand up for the vulnerable members of society and be a voice for the many young carers in Wales. I aim to promote the importance of disability awareness within education. I am excited to be part of change in this generation.
Annabelle Betuma ydw i a dw i newydd droi’n 11 oed. I fi, bydd bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn golygu sefyll i fyny dros faterion sy’n anodd i gymdeithas eu newid. Mae angen i gymdeithas sylwi ar yr economi a’r system addysg, nawr. Ers 3 blynedd dw i wedi bod yn rhan o bwyllgor eco fy ysgol ac wedi bod yn aelod o Senedd yr ysgol am flwyddyn hefyd. Dros y cyfnod hwn, dw i wedi ymweld â’r Senedd yn Llundain; cefais gwrdd â Jo Stevens AS, plannu sawl coeden, codi sbwriel mewn cymunedau lleol a chynnal cyflwyniadau yn fy ysgol. Mae addysg yn fwy na rhywle i ddysgu, mae’n rhywle i gael eich deall a’ch derbyn. Dyna pam mae addysg yn bwysig i mi. Gan fy mod i’n gofalu am fy mrawd bach, dw i eisiau sefyll i fyny dros aelodau bregus cymdeithas a bod yn llais i’r llawer o ofalwyr ifanc yng Nghymru. Dw i’n bwriadu hybu pa mor bwysig yw bod yn ymwybodol o anableddau mewn addysg. Dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r newid yn y genhedlaeth hon.