Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Cadi Prys Dafydd
Inclusion and equality / Cynhwysiant a chydraddoldeb
Everyone's right to be bilingual / Hawl pawb i fod yn ddwyieithog
Protecting the environment / Diogelu’r amgylchedd
I would like to be a Member of the Welsh Youth Parliament in order to influence how Wales is governed. I'm not afraid to raise my voice and I feel passionately about the rights of children and young people, equality and fairness.
I am proud of my language, my culture and my history and being inclusive when celebrating our nation is important to me.
We also have a duty to support children and young people across the world who suffer because of war, violence, inequality, poverty, lack of opportunities and oppression. Although we are a small country we can unite with other countries to be a major voice.
Protecting the environment is one of the great challenges for our planet and I believe that the problem should be dealt with at a local level as each individual, family, school, business and country plays their part. After all, we, the young people, are the future.
I would devote myself to speaking on behalf of young people by listening to diverse voices, face to face and on social media. I believe that by understanding each other better we can create a better country and world for everyone.
Hoffwn fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn dylanwadu ar sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu. Dwi ddim ofn codi fy llais a theimlaf yn angerddol am hawliau plant a phobl ifanc, cydraddoldeb a thegwch.
Dwi’n ymfalchïo yn fy iaith, fy niwylliant a fy hanes ac mae bod yn gynhwysol wrth ddathlu ein cenedlaetholdeb yn bwysig i mi.
Mae dyletswydd arnon ni hefyd i gefnogi plant a phobl ifanc ar draws y byd sy’n dioddef rhyfel, trais, anghyfartaledd, tlodi, diffyg cyfleoedd a gormes. Er mai gwlad fach ydyn ni gallwn uno gyda gwledydd eraill i fod yn llais mawr.
Diogelu’r amgylchedd ydy un o heriau mawr ein planed a chredaf mai ar lefel leol y mae delio gyda’r broblem wrth i bob unigolyn, teulu, ysgol, busnes a gwlad wneud eu rhan. Wedi’r cyfan, ni, y bobl ifanc ydy’r dyfodol.
Baswn i’n ymroi i siarad ar ran pobl ifanc gan wrando ar leisiau amrywiol, wyneb yn wyneb ac ar gyfryngau cymdeithasol. Credaf mai drwy ddeall ein gilydd yn well y gallwn ni greu gwlad a byd gwell i bawb.