Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Key Issue 1

Intergenerational expansion/Ehangu rhwng cenedlaethau

Key Issue 2

Young carer support/Cefnogaeth i ofalwyr ifanc

Key Issue 3

Youth transport/Trafnidiaeth i bobl ifanc

CANDIDATE STATEMENT

I want a better life for young people with opportunities for all, especially those in deprived areas. If elected I would like to reach out to schools, particularly in my local area of Splott, to ensure children are aware of their rights and any opportunities available to them. I know from personal experience that many young people would love to be involved in making change, but just don’t know how. I’m approachable and know the value of listening and keeping an open mind. I also understand the importance of respecting the opinion of others, even when mine may differ. I have taken part in many Debate Mate competitions and my team were crowned champions in the 2024 finals. This experience means I can speak confidently in public and give the needs and expectations of young people a clear voice and presence in Youth Parliament. I also volunteer with a local charity, Moorland STAR who work with older people in the community, so I am adept at working and communicating with people of all ages

DATGANIAD YMGEISYDD

Rydw i eisiau bywyd gwell i bobl ifanc gyda chyfleoedd i bawb, yn enwedig y rheini mewn ardaloedd difreintiedig. Os byddaf yn cael fy ethol, hoffwn estyn allan i ysgolion, yn enwedig yn fy ardal leol yn Sblot, i sicrhau bod plant yn ymwybodol o'u hawliau ac unrhyw gyfleoedd sydd ar gael iddynt. Rwy’n gwybod o brofiad personol y byddai llawer o bobl ifanc wrth eu bodd yn cyfrannu at sicrhau newid, ond nad ydynt yn gwybod sut i wneud hynny. Mae’n hawdd dod i siarad â mi ac rwy’n deall gwerth gwrando a chadw meddwl agored. Rydw i hefyd yn deall pwysigrwydd parchu barn pobl eraill, hyd yn oed pan fydd fy marn i’n wahanol. Rwyf wedi cymryd rhan mewn llawer o gystadlaethau Debate Mate a choronwyd fy nhîm yn bencampwyr yn rowndiau terfynol 2024. Mae'r profiad hwn yn golygu y gallaf siarad yn gyhoeddus gyda hyder a rhoi llais a phresenoldeb clir yn y Senedd Ieuenctid i anghenion a disgwyliadau pobl ifanc. Rwyf hefyd yn gwirfoddoli gydag elusen leol Moorland STAR, sy’n gweithio gyda phobl hŷn yn y gymuned, felly rwy’n fedrus wrth weithio a chyfathrebu â phobl o bob oed.