Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Alfie Jones
Transport / Trafnidiaeth
Poverty & homelessness / Tlodi a digartrefedd
Mental health / Iechyd meddwl
Having been born and raised in North Cardiff, I have been profoundly shaped by the policies and actions of the Welsh Government. As a student studying for my A-levels, I’ve engaged with diverse opinions and experiences from fellow young Welsh people throughout my lifetime and wish to act as a platform for these voices.
Wales faces a plethora of issues. From transport unreliability to poor road infrastructure to social media issues. A lack of mental health support in schools to a global warming epidemic. I hope to act on behalf of my constituency, raising issues that will benefit the lives of the Welsh people whilst amplifying the differing experiences of the youth of this country.
I ask for your vote because I will represent your interests, not mine. Being educated and up-to-date on current affairs, I will ensure that I represent the people of Cardiff North and escalate these concerns to the Senedd. I am hard-working, conscientious and determined to stimulate change. Thank you.
Ar ôl cael fy ngeni a’m magu yng Ngogledd Caerdydd, rydw i wedi cael fy ffurfio i raddau helaeth gan bolisïau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Fel myfyriwr sy’n astudio ar gyfer fy Lefel A, rwyf wedi ymgysylltu â safbwyntiau a phrofiadau amrywiol gan gyd-Gymry ifanc ar hyd fy oes, ac yn dymuno gweithredu fel llwyfan i’r lleisiau hyn.
Mae Cymru yn wynebu llu o faterion. O annibynadwyedd trafnidiaeth, i seilwaith gwael ar gyfer ffyrdd, i faterion ynghylch y cyfryngau cymdeithasol. Diffyg cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion, i epidemig cynhesu byd-eang. Fy ngobaith yw gweithredu ar ran fy etholaeth, gan godi materion o fudd i fywydau’r Cymry, tra’n ymhelaethu ar brofiadau gwahanol ieuenctid y wlad hon.
Dyma ofyn am eich pleidlais, oherwydd byddaf yn cynrychioli eich buddiannau chi, nid fy muddiannau personol. A minnau wedi cael addysg a’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfoes, byddaf yn sicrhau fy mod yn cynrychioli pobl Gogledd Caerdydd ac yn dwyn y pryderon hyn at sylw’r Senedd. Rwy'n weithgar, yn gydwybodol ac yn benderfynol o ysgogi newid. Diolch yn fawr.