Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
AbdulAziz Algahwashi
Child Poverty/Tlodi Plant
Sexualisation of Children/Rhywioli Plant
Tackling youth crime/Mynd i'r Afael â Throseddau Ieuenctid
My name is Abdul Aziz, and I am Welsh and Qatari, living in Cardiff. I am passionate about giving young people a voice, and that is why I want to be a member of the Welsh Youth Parliament. I believe that the views and concerns of young people in our area deserve to be heard, and I am committed to ensuring that they are represented at every level. I will actively engage with young people in our area through regular meetings, social media, and community events to gather your thoughts and opinions on the issues that matter most to you. Whether it's education, job opportunities, or concerns about the future, I will make sure your voices are heard loud and clear in the Welsh Youth Parliament. People should vote for me because I am dedicated to making a difference and have the skills to do so. As a confident public speaker who loves connecting with others, I am approachable and a good listener, I believe that I have the passion and experience to be your strong voice in the youth parliament.
Fy enw i yw Abdul Aziz, a dw i’n Gymro a Qatari, sy’n byw yng Nghaerdydd. Dw i’n frwd dros roi llais i bobl ifanc, a dyna pam dw i am fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Credaf fod barn a phryderon pobl ifanc yn ein hardal yn haeddu cael eu clywed, a dw i wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli ar bob lefel. Byddaf yn ymwneud yn frwd â phobl ifanc yn ein hardal trwy gyfarfodydd rheolaidd, y cyfryngau cymdeithasol, a digwyddiadau cymunedol i gasglu eich meddyliau a’ch barn ar y materion sydd bwysicaf i chi. Boed yn addysg, cyfleoedd gwaith, neu bryderon am y dyfodol, byddaf yn gwneud yn siŵr bod eich lleisiau’n cael eu clywed yn uchel ac yn glir yn Senedd Ieuenctid Cymru. Dylai pobl bleidleisio drosta i oherwydd fy mod i’n ymroddedig i wneud gwahaniaeth ac mae gen i’r sgiliau i wneud hynny. Fel siaradwr cyhoeddus hyderus sydd wrth fy modd yn cysylltu ag eraill, dw i’n berson agos atoch ac yn wrandäwr da. Dw i’n credu bod gen i’r angerdd a’r profiad i fod yn llais cryf i chi yn y Senedd Ieuenctid.