Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Lucian Tunnicliffe
Mental Health/Iechyd Meddwl
Youth Outreach in Politics/Allgymorth Ieuenctid mewn Gwleidyddiaeth
Greener Business Practices/Arferion Busnes Gwyrddach
I am standing for the WYP because I believe I can make a difference, not just for my constituents; but for all young people.
I have had first-hand experience of the mental health services in Wales, and I believe that by listening more, we can make clearer recommendations for change. It’s vital we improve the service and link up support for those who need it; especially since the impact of lock-down is just starting to be felt. Quick and easy access to even basic mental health resources is literally a life saver.
By organising MockUN events, coaching my team both there and in the debating society, I have seen how passionate we can be about our society and the world around us. Too many think we can’t make a difference; yet I’ve seen how we can and I want to enable more of us to do so.
If elected, I would have an open bimonthly video call – available to all, will be always contactable on social media; and will publicise all our work to ensure that the youth of Cardiff Central are heard.
Dw i’n ymgeisio ar gyfer SIC oherwydd fy mod i’n credu y gallaf wneud gwahaniaeth, nid yn unig i’m hetholwyr, ond ar gyfer pob person ifanc.
Dw i wedi cael profiad uniongyrchol o’r gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, a chredaf, drwy wrando mwy, y gallwn wneud argymhellion cliriach ar gyfer newid. Mae'n hanfodol ein bod yn gwella'r gwasanaeth ac yn cysylltu cymorth â'r rhai sydd ei angen, yn enwedig gan fod effaith y cyfnod clo newydd ddechrau cael ei theimlo. Mae mynediad cyflym a hawdd at adnoddau iechyd meddwl sylfaenol yn llythrennol yn achub bywydau.
Drwy drefnu digwyddiadau Cenhedloedd Unedig Ffug, gan hyfforddi fy nhîm yno a’r gymdeithas ddadlau, dw i wedi gweld pa mor angerddol y gallwn fod am ein cymdeithas a’r byd o’n cwmpas. Mae gormod yn meddwl na allwn wneud gwahaniaeth; eto, dw i wedi gweld sut gallwn wneud hynny a dw i am alluogi mwy ohonon ni i wneud hynny.
Pe bawn i’n cael fy ethol, byddai gen i alwad fideo agored bob deufis – ar gael i bawb. Bydd modd cysylltu â mi bob amser ar y cyfryngau cymdeithasol, a byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i'n holl waith i sicrhau bod ieuenctid Caerdydd Canolog yn cael eu clywed.