Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Maisie Powell
Welsh Language/Yr Iaith Gymraeg
Equality/Cydraddoldeb
Public Transport/Trafnidiaeth Gyhoeddus
I am very passionate about the voice of young people, as I believe that their voice is just as important as anyone else.
It would be a pleasure to help you get your voice heard more by accomplishing some of the key issues that people from my school voted for in my Google Forms.
As a member of WYP, I would make your voice my priority to ensure equality among everyone and create safe spaces.
I would also try to lower the price of public transport to make it affordable for all.
Most importantly, I will help to attain one million Welsh speakers by 2050.
I firmly believe that the opportunity to be a member of the WYP would be extremely beneficial, as I could ensure that your voice is heard.
I would be honoured to represent my area to make a more affordable, equal and cultural Cymru!
Dw i’n angerddol iawn am leisiau pobl ifanc, gan fy mod i’n credu bod eu llais yr un mor bwysig â llais unrhyw un arall.
Byddai'n bleser eich helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn fwy trwy gyflawni rhai o'r materion allweddol y pleidleisiodd pobl o fy ysgol drostyn nhw yn fy nogfen Google Forms.
Fel aelod o SIC, byddwn yn gwneud eich llais yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau cydraddoldeb ymhlith pawb a chreu mannau diogel.
Byddwn hefyd yn ceisio gostwng pris trafnidiaeth gyhoeddus i’w gwneud yn fforddiadwy i bawb.
Yn bwysicaf oll, byddaf yn helpu i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Credaf yn gryf y byddai’r cyfle i fod yn aelod o SIC yn hynod fuddiol, gan y gallwn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Byddai’n anrhydedd i mi gynrychioli fy ardal i wneud Cymru fwy fforddiadwy, gyfartal a diwylliannol!