Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Sophie Vincent
Welsh language being forgotten/Yr iaith Gymraeg yn cael ei hanghofio
Transport being available/Argaeledd Trafnidiaeth
Looking after council estates/Gofalu am ystadau tai cyngor
I want to be a Youth Parliament Member as I want to improve my area and anywhere that residents suggest. As of now I know nobody that i could vo to with my suggestions, therefore other people may feel the same. I'd take pride and immense responsibility knowing that I could be the person that can be relied upon to make everyone's voice heard. Additionally, the fact that I take part in many additional activities means I am an easy person to find if any of my peers want their voice heard. I will not let anyone who votes for me down, this is because I have a strong and confident voice that I will use whenever the chance shows itself. I am used to getting my point across without any need of shouting or crude words as my debate team has tought me to think politically. Another aspect is that I have represented my school at Oxford University previously. I read a speech that I wrote myself in the Oxford townhall to The Brilliant Club program. I hope you take my application under consideration.
Dw i am fod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid gan fy mod i eisiau gwella fy ardal ac unrhyw le y mae trigolion yn ei awgrymu. Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn nabod neb y gallwn fynd ato gyda fy awgrymiadau, felly efallai fod pobl eraill yn teimlo'r un peth. Byddwn yn cymryd balchder a chyfrifoldeb aruthrol gan wybod y gallwn i fod y person y gallwch ddibynnu arno i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Yn ogystal, mae'r ffaith fy mod i’n cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ychwanegol yn golygu fy mod i’n berson hawdd i ddod o hyd iddo os oes unrhyw un o'm cyfoedion eisiau i'w llais gael ei glywed. Fydda i ddim yn siomi unrhyw un sy'n pleidleisio drosta i. Mae hyn oherwydd bod gen i lais cryf a hyderus y byddaf yn ei ddefnyddio pryd bynnag y daw’r cyfle. Dw i wedi arfer cyfleu fy mhwynt heb fod angen gweiddi na defnyddio geiriau anweddus gan fod fy nhîm dadlau wedi fy nysgu i feddwl yn wleidyddol. Agwedd arall yw fy mod i wedi cynrychioli fy ysgol ym Mhrifysgol Rhydychen o'r blaen. Darllenais araith a ysgrifennais fy hun yn neuadd y dref yn Rhydychen i raglen The Brilliant Club. Gobeithio y byddwch yn ystyried fy nghais.