Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Key Issue 1

Education / Addysg

Key Issue 2

Social Justice / Cyfiawnder Cymdeithasol

Key Issue 3

Farming / Ffermio

CANDIDATE STATEMENT

I’m Darcy Richards, I’m 13 years old and study at Brecon High School. I believe I would be a good Welsh Youth Parliament Member because I care deeply about the future of Wales, particularly Brecon and Radnorshire, that's why I have represented my peers on my school council for 3 years.
I am an active and passionate member of my community, demonstrated through my involvement with YFC and extracurricular school activities including refugee days. As my YFC’s attendance officer, I am organised and work well in a team. I enjoy finding solutions by working together, and will use my network and social media to gather the views of my peers, and ensure they are heard in the Senedd.
I would love to be a Welsh Youth Parliament member to represent my community and influence policies. I’m a good listener who will stand up for issues that I or my community feel strongly about. If that’s what you want from your representative, please vote for me.

DATGANIAD YMGEISYDD

Darcy Richards ydw i, dw i’n 13 oed ac yn astudio yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Dw i’n credu y byddwn i’n aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd mae dyfodol Cymru yn hynod bwysig i mi, yn enwedig Brycheiniog a Sir Faesyfed. Dyna pam dw i wedi cynrychioli fy nghyfoedion ar fy nghyngor ysgol ers tair blynedd.
Dw i’n aelod gweithgar ac angerddol o’m cymuned, sy’n amlwg o’m gwaith gyda mudiad y Clybiau Ffermwyr Ifanc a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol, gan gynnwys dyddiau ffoaduriaid. Fel swyddog presenoldeb fy Nghlwb Ffermwyr Ifanc, dw i’n drefnus ac yn gweithio'n dda mewn tîm. Dw i’n mwynhau dod o hyd i atebion drwy gydweithio, a byddaf yn defnyddio fy rhwydwaith a’r cyfryngau cymdeithasol i gasglu barn fy nghyfoedion, a sicrhau eu bod yn cael eu clywed yn y Senedd.
Byddwn wrth fy modd yn cael bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gynrychioli fy nghymuned a dylanwadu ar bolisïau. Dw i’n un da am wrando a byddaf yn sefyll dros faterion yr ydw i, neu fy nghymuned, yn teimlo'n gryf yn eu cylch. Os mai dyna rydych chi ei eisiau gan eich cynrychiolydd, pleidleisiwch drosta i.