Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Daniil Narusberg

Key Issue 1

Transport. Improve for work / Trafnidiaeth. Ei gwella ar gyfer gwaith

Key Issue 2

Farming. Wales is agricultural / Ffermio. Mae Cymru yn wlad amaethyddol

Key Issue 3

Housing. Lack of accommodation / Tai. Diffyg llety

CANDIDATE STATEMENT

I want to be a Welsh Youth Parliament member as I want to be a politician. I am passionate about History, Geography & Politics.
I understand economics, business, transport, some areas that affect our lives in Wales.
I will engage with youth at places like sports clubs and hobby groups.
I will meet with them regularly to update them on their issues.
The best Politicians listen and act.
I moved to Wales from Ukraine 3 years ago. I learnt English, I have been the outsider. I will represent people who don’t get listened to, like the youth.
I’m a good listener. I go to chess & snooker club so I am a strategist. I care about improving everyone’s life who are in distress.
I look at history, what went wrong and learn from it.
I met with our MP Nick Smith for advice and guidance.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau bod yn aelod Senedd Ieuenctid Cymru am fy mod i eisiau bod yn wleidydd. Dw i’n angerddol am hanes, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth.
Dw i’n deall economeg, busnes, trafnidiaeth, rhai meysydd sy’n effeithio ar ein bywydau yng Nghymru.
Bydda i’n ymgysylltu â phobl ifanc mewn lleoedd fel clybiau chwaraeon a grwpiau hobïau.
Bydda i’n cyfarfod â nhw’n rheolaidd i’w diweddaru ar eu materion.
Mae’r gwleidyddion gorau’n gwrando ac yn gweithredu.
Symudais i i Gymru o Wcráin 3 blynedd yn ôl. Dw i wedi dysgu Saesneg, dw i wedi bod y dieithryn. Bydda i’n cynrychioli pobl nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed, fel pobl ifanc.
Dw i’n wrandäwr da. Dw i’n mynd i glwb gwyddbwyll a snwcer, felly dw i’n strategydd. Dw i’n poeni am wella bywyd pawb sydd mewn trallod.
Dw i’n edrych ar hanes, beth aeth o’i le ac yn dysgu ohono.
Gwnes i gyfarfod â Nick Smith, ein Haelod Seneddol, am gyngor ac arweiniad.