Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Elin Llwyd Brychan
The future of the Welsh language / Dyfodol yr Iaith Gymraeg
Sustainable tourism / Twristiaeth Gynaliadwy
A convenient transport network / Rhwydwaith trafnidiaeth hwylus
I wish to be a Member of the Youth Parliament because I’d like to play an active part in shaping young people’s futures in Wales. As someone who has links with local youth organisations, I am aware of the issues that matter to young people, so I feel qualified to support them. I’m a member of the Urdd Youth Forum, Gwynedd and Môn Music Groups and the Young Farmers’ Club. Also, I consider myself to be a strong candidate because I believe in taking advantage of all opportunities and experiences that come my way. I was one of the founders of the Caernarfon Urdd group, I coach younger teams in netball and I organise gigs for young people. In addition, I am an individual with firmly held beliefs. I work for a community enterprise and I volunteer at local events of a sustainable and cultural nature. These experiences have enabled me to develop my communication and networking skills, as well as my organisational and problem-solving skills. I am also the ideal candidate because I am a conscientious and dependable person who believes strongly that young people’s voices should be heard in shaping our future.
Dymunaf fod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid oherwydd hoffwn fod yn rhan weithredol o lunio dyfodol pobl ifanc Cymru. Fel rhywun sydd â chysylltiadau gyda mudiadau ieuenctid lleol rwy’n ymwybodol o’r materion sydd o bwys iddynt felly teimlaf yn gymwys i’w cynrychioli. Rwy’n aelod o Fforwm Ieuenctid yr Urdd, Grwpiau Cerdd Gwynedd a Môn, a’r Clwb Ffermwyr Ifanc. Hefyd, ystyriaf fy hun fel ymgeisydd cryf oherwydd credaf mewn bachu ar bob cyfle a phrofiad. Rwy’n un o sylfaenwyr aelwyd yr Urdd Caernarfon, rwy’n hyfforddi pêl-rwyd i dimau iau ac yn trefnu gigiau ieuenctid. Yn ogystal, rwy’n unigolyn sy’n meddu ar ddaliadau cryf. Rwy’n gweithio i fenter gymunedol ac rwy’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau lleol cynaliadwy a diwylliannol. Mae’r profiadau yma wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio, trefnu a datrys problemau. Yn ogystal, rwy’n ymgeisydd delfrydol gan fy mod yn berson cydwybodol a dibynadwy sy’n credu’n gryf y dylai llais pobl ifanc gael ei glywed wrth ffurfio ein dyfodol.