Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Arzo Najebzada
Mental health and well-being / Cymorth iechyd meddwl a lles
Tackling bullying in schools / Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion
Support for young asylum seekers / Cefnogaeth i geiswyr lloches ifanc
Hi! My name is Arzo and I'm currently in year 9. I believe that I would make a good member of the Welsh Youth Parliament because I care a lot about young people in Wales. I moved to Wales from Afghanistan in 2020. I spoke no English and it was a very scary time. I have worked very hard on my language skills and now my English is much better and I'm also learning Welsh.
I love Wales and I want to do everything I can to help the young people of Wales and make a difference. I do a lot of work in school with our LGBTQ+ Ambassadors and our Tim Iaith, and I am part of our school Senedd. I feel strongly that young people should have a voice and a say in how their country is run. If I were to be elected, I promise that I'd listen to the young people of Wales and be that voice in the Senedd.
My top 3 priorities are...
> Mental health and well-being support for young people.
> Tackling bullying in schools.
> Support for young asylum seekers and people with EAL.
Thank you for reading!
Helo! Fy enw i yw Arzo a dw i ym mlwyddyn 9 ar hyn o bryd. Dw i’n credu y bydden i’n aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd mae pobl ifanc Cymru yn bwysig i mi. Symudais i Gymru o Afghanistan yn 2020. Doeddwn i ddim yn siarad Saesneg ac roedd hi’n adeg ofnus iawn i mi. Dw i wedi gweithio’n galed ar fy sgiliau iaith ac mae fy Saesneg yn llawer gwell a dw i hefyd yn dysgu Cymraeg.
Dw i’n caru Cymru ac eisiau gwneud popeth posibl i helpu pobl ifanc Cymru a gwneud gwahaniaeth. Dw i’n gwneud llawer o waith yn yr ysgol gyda’r Cenhadon LHDTQ+ a’r Tîm Iaith, ac rwy’n rhan o Senedd yr ysgol. Dw i’n teimlo’n gryf y dylai pobl gael llais a gallu dweud eu dweud o ran sut mae’r wlad yn cael ei rhedeg. Petawn i’n cael fy ethol, dw i’n addo gwrando ar bobl ifanc Cymru a bod y llais hwnnw yn y Senedd.
Y 3 mater allweddol dw i wedi dewis yw...
> Cymorth iechyd a lles meddyliol i bobl ifanc.
> Taclo bwlio mewn ysgolion.
> Cefnogi ceiswyr lloches ifanc a phobl gyda Saesneg fel Iaith Ychwanegol.
Diolch i chi am ddarllen!