Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Joshua Stott
Secondary education / Addysg uwchradd
Nuclear energy / Ynni niwclear
Child support / Cymorth i blant
I would love to be a welsh youth Parliament member as I believe it would give me an insight into the political world as i would love to pursue a future career within. This opportunity would give me more of a chance to consult the young people in my area which i would do through school and fundraisers. I will make sure that the young people in my area feel like their voices are heard by making sure I am seen as open to as many as possible so they feel like they can talk to me about any concerns they have. People should vote for me as I am a normal teenager with a passion who is wanting be open myself up to better opportunities. My passion is to make differences all around the world and this opportunity would be my first big step to get on to that ladder. I have recently become one of the Cymru DofE ambassadors which is giving me experiences such as media training. I have raised money for Parkinson’s UK by doing a skydive which I think shows my dedication to things I strongly believe in.
Bydden i wrth fy modd yn bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n meddwl bydd e’n rhoi mewnwelediad i mi i’r byd gwleidyddol, oherwydd dw i eisiau mynd ar ôl gyrfa yn y maes. Byddai’r cyfle yn caniatáu i mi ymgynghori â’r bobl ifanc yn fy ardal, a bydden i’n gwneud hynny drwy’r ysgol a digwyddiadau codi arian. Fe wnaf yn siŵr bod pobl ifanc yn fy ardal yn teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed, drwy sicrhau fy mod yn agored fel eu bod yn gallu dod i siarad gyda fi am unrhyw bryderon. Dylai pobl bleidleisio drosof fi gan fy mod yn berson ifanc normal ac angerddol, sydd eisiau cael cyfleoedd gwell. Fy angerdd yw gwneud gwahaniaeth ym mhob rhan o’r byd, a’r cyfle hwn yw’r cam cyntaf ar yr ysgol. Yn ddiweddar, dw i wedi dod yn un o lysgenhadon Dug Caeredin Cymru, sy’n rhoi cyfleoedd i mi fel hyfforddiant ar y cyfryngau. Rydw i wedi codi arian i Parkinson’s UK drwy gwblhau naid o awyren (skydive) sy’n dangos fy ymroddiad i bethau dw i’n credu ynddynt.