Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.
Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.
Adrianna Mmatli-Tomiak
Art and performance / Celf a Pherfformiad
Mental health services / Gwasanaethau iechyd meddwl
Environment / Amgylchedd
I am a Flintshire resident living in the Deeside area. I have a strong passion for improving education, mental health, the environment, and performance arts services for young people in our community.
As a primary school student, I understand the importance of being in a happy and safe environment at school and home environment. Being well-natured in both environments means that we can dream and create a future for ourselves and a better future for the generations to come.
I have a good understanding of the Equality Act 2010 and the importance of ensuring that the protected characteristics under the act should be respected by every citizen. Therefore, this opportunity would allow me to engage with young people in schools particularly those in exclusion, and isolation, and advocate for every child to feel included in a school environment regardless of their disability, age, gender or race. I believe that working together and having common visions and goals makes us stronger.
Rwy'n breswylydd yn Sir y Fflint sy'n byw yn ardal Glannau Dyfrdwy. Mae gen i angerdd cryf dros wella addysg, iechyd meddwl, yr amgylchedd, a gwasanaethau celfyddydau perfformio i bobl ifanc yn ein cymuned.
Fel myfyriwr ysgol gynradd, rwy'n deall pwysigrwydd bod mewn amgylchedd hapus a diogel yn yr ysgol a'r cartref. Mae bod yn hyddysg yn y ddau amgylchedd yn golygu y gallwn freuddwydio a chreu dyfodol gwell i ni'n hunain a dyfodol gwell i'r cenedlaethau i ddod.
Mae gen i ddealltwriaeth dda o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a phwysigrwydd sicrhau y dylai pob dinesydd barchu'r nodweddion gwarchodedig dan y Ddeddf. Felly, byddai'r cyfle hwn yn fy ngalluogi i ymgysylltu â phobl ifanc mewn ysgolion, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn allgáu, ac unigedd, ac eirioli dros i bob plentyn deimlo ei fod wedi'i gynnwys mewn amgylchedd ysgol waeth beth fo'u hanabledd, oedran, rhyw neu hil. Rwy'n credu bod gweithio gyda'n gilydd a chael gweledigaethau a nodau cyffredin yn ein gwneud yn gryfach.