Please note that the content shared in candidate profiles are the views of individual candidates and not of the Senedd.

 

Please also note that all profiles have been translated to ensure that candidate information is available bilingually.

Katie Baily

Key Issue 1

Housing / Tai

Key Issue 2

Healthcare / Gofal Iechyd

Key Issue 3

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

CANDIDATE STATEMENT

Hello, I am Katie Baily and I am very interested in becoming a youth parliament member. Becoming a member is important to me as I want to do whatever it takes to make the country of my heart the best it can be. I have consulted with a group of my peers aged 12-14 and they have expressed what they believe need addressing most; this is how I chose my key issues. I believe I am intelligent, determined, mindful, Confident and very good in a debate having been in multiple debate teams in the past. Growing up I was always someone who would get my, and other people’s, voices heard. This is one of the many reasons I think I would be exceptional in the role of a youth parliament member. Upon the young age of 10 me and my mum were told of the passing of my dad, I was unable to attend the funeral due to COVID-19 restrictions. My mum was forced to continue working through her mourning for the NHS as a healthcare assistant at the time. Seeing her struggles made me realise, we need to make a change.

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, Katie Baily ydw i ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn dod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid. Mae dod yn aelod yn bwysig i mi oherwydd dw i eisiau gwneud beth bynnag sydd angen ei wneud i sicrhau bod y wlad y gorau mae’n gallu bod. Dw i wedi siarad gyda fy nghyfoedion rhwng 12-14 oed, ac maen nhw wedi dweud beth sydd angen ei ddatrys; dyma sut dewisais i fy materion allweddol. Dw i’n credu fy mod yn glyfar, yn benderfynol, yn ofalus ac yn hyderus ac yn dda iawn am ddadlau. Dw i wedi bod mewn sawl tîm dadlau yn y gorffennol. Wrth dyfu i fyny, roeddwn i bob amser yn gwneud yn siŵr bod fy llais i a lleisiau eraill yn cael eu clywed. Dyma un rheswm pam dw i’n meddwl y bydden i’n aelod arbennig iawn o’r Senedd Ieuenctid. Pan roeddwn i’n 10 oed, cafodd fy mam a fi wybod bod fy nhad wedi marw. Doeddwn i ddim yn gallu mynd i’r angladd oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Roedd Mam yn gorfod dal i weithio drwy ei galar i’r GIG fel cynorthwyydd gofal iechyd bryd hynny. Roedd gweld hi’n ei chael hi’n anodd yn gwneud i mi sylweddoli bod angen newid pethau.