Cofrestru i fod yn ymgeisydd

I ddod yn ymgeisydd yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, mae angen i ti greu proffil ac ateb y cwestiynau isod. Os wyt ti angen unrhyw help neu gefnogaeth, rwyt ti’n gallu cysylltu â ni yn [email protected].

Os byddi di’n dewis darparu rhif dy ffôn symudol, bydd hyn dim ond yn cael ei ddefnyddio i ddanfon linc i dy bapur pleidleisio a dy atgoffa am yr etholiad drwy neges destun.
O leiaf 6 nod.

Dewis dy ardal
Dewis yr ardal leol (a elwir yn etholaeth) yr wyt ti am sefyll drosti. Efallai dy fod yn byw mewn etholaeth wahanol i'r un lle rwyt ti'n mynd i'r ysgol neu'n mynychu'r coleg. Os felly, gelli di ddewis yr etholaeth yr wyt ti am sefyll drosti.
I gael gwybod enw'r etholaeth rwyt ti'n sefyll drosti, clicia yma a theipio dy god post o dan 'Dod o hyd i Aelod o’r Senedd.'
Bydd enw dy etholaeth yn ymddangos, ynghyd â’r Aelodau o’r Senedd sy'n ei chynrychioli yn y Senedd ar hyn o bryd.