Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Dylan Owain Thorpe

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Transport / Trafnidiaeth

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Environment / Yr Amgylchedd

DATGANIAD YMGEISYDD

I want to be a Youth parliament member because I’d love to make a positive impact for Anglesey and act as a voice for young people. I have enjoyed my various experiences working with children’s rights, such as working as a young advisor for the Children's Commissioner for Wales, and working as vice-chairman of the UNICEF committee at my school, for which I won Young Peacemakers awards 2024 in the Llangollen Eisteddfod. I have had many opportunities to advocate for young people to the Children’s Commissioner and have learned how to communicate my opinions as a young person to officials. I’m thrilled by being active in my local community and as Head Boy at my school I’m able to operate within my school and wider communities. My position comes with many opportunities to communicate with young people all over Anglesey, and I will hear their wants and needs and amplify them to the Senedd. You should vote for me, because I have the experiences and skills to have your voice acknowledged.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau bod yn aelod o’r senedd ieuenctid oherwydd dw i wir eisiau cael effaith bositif ar Ynys Môn a bod yn llais i bobl ifanc. Dw i wedi mwynhau fy mhrofiadau amrywiol yn gweithio gyda hawliau plant, fel gweithio fel ymgynghorydd ifanc ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru, a gweithio fel is-gadeirydd pwyllgor UNICEF yn fy ysgol. Nes i ennill gwobr Heddychwr Ifanc 2024 yn Eisteddfod Llangollen ar gyfer hynny. Dw i wedi cael lawer o gyfle i eirioli dros bobl ifanc gyda’r Comisiynydd Plant ac wedi dysgu sut i gyfathrebu barn fel person ifanc gyda swyddogion. Dw i wrth fy modd yn bod yn actif yn y gymuned leol ac fel Prif Ddisgybl yn fy ysgol, dw i’n gallu gweithredu yn yr ysgol a’r cymunedau ehangach. Mae llawer o gyfleoedd yn deillio o hyn i gyfathrebu gyda phobl ifanc o bob rhan o Ynys Môn, a dw i’n mynd i wrando ar eu dymuniadau ac anghenion a rhannu’r rhain gyda’r Senedd. Dylech chi bleidleisio drosof fi oherwydd mae gen i’r profiad a’r sgiliau i wneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei gydnabod.