Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Gwawr Elenid Hearn

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Holiday homes / Tai haf

Mater o Bwys 2

River pollution / Llygredd afonydd

Mater o Bwys 3

Public transport reform / Diwygio trafnidiaeth gyhoeddus

DATGANIAD YMGEISYDD

As one of the countries with the lowest voting age in the world, young people in Wales have a duty to be politically active. If I were elected, I would promote the concerns and wishes of my peers on the island, such as the following.

About 7.5 per cent of houses on Anglesey are holiday homes. This increases house prices, driving young people out of their communities. I would lobby the Senedd to tighten rules on second homes and encourage the construction of affordable homes.

Anglesey's rivers are toxic, with far-reaching effects. If elected, I will push the Senedd to modernise Welsh Water's infrastructure, separating the storm water and sewage systems.

I would like to work to obtain free bus passes for people under 22, like in Scotland. There must also be a bus system that responds to demand, to increase access to public transport in rural areas.

As Head Pupil and leader of the School Council, I have experience of voicing young people's opinions. I believe that representation is crucial, from the classroom to Cardiff Bay.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel un o’r gwledydd gyda’r oedran pleidleisio isaf yn y byd, mae gan bobl ifanc Cymru ddyletswydd i fod yn weithredol yn wleidyddol. Petawn i’n cael fy ethol, buaswn yn hybu pryderon a dymuniadau fy nghyfoedion ar yr ynys, megis y canlynol.

Mae tua 7.5% o dai ar Ynys Môn yn dai haf. Mae hyn yn cynyddu prisiau tai, gan wthio pobl ifanc o’u cymunedau. Buaswn yn lobïo’r Senedd i dynhau rheolau ar ail dai ac annog adeiladu tai fforddiadwy.

Mae afonydd Ynys Môn yn wenwynig, gyda effeithiau pellgyrhaeddol. Os caf fy ethol, mi wthiaf y Senedd i foderneiddio seilwaith Dŵr Cymru, gan wahanu’r system dŵr storm a charthffosiaeth.

Hoffwn weithio i gael tocyn bws am ddim i bobl o dan 22, fel yn yr Alban. Hefyd rhaid cael system bysus sy’n ymateb i alw, i gynyddu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.

Fel Prif Ddisgybl ac arweinydd y Cyngor Ysgol, mae gen i brofiad o leisio barn pobl ifanc. Credaf fod cynrychiolaeth yn hollbwysig, o’r ystafell ddosbarth i Fae Caerdydd.