Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Leon Benton

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Mental Health / Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 3

Improving Youth Activities / Gwella gweithgareddau ieuenctid

DATGANIAD YMGEISYDD

I want to be a WYPM because I believe every person's voice should be heard because people are making decisions about things that we will have to live with and that will impact our futures. I want to make Wales an amazing place to be for young people so we can thrive. This is why my three main topics are education, mental health and improving youth activities. Being on my student council and youth parliament has given me a range of skills which would be useful as a WYPM.
We are the future! Our voices must be heard and I will make it my mission to listen to everyone in my constituency and ensure their voices are heard. You can raise an issue with me and I will do my best to work on it. I would be delighted if you could vote for me in this election.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n credu dylai llais pob person ifanc gael ei glywed oherwydd mae pobl yn gwneud penderfyniadau am bethau fyddwn ni’n gorfod byw hefo nhw, a bydd hynny’n effeithio ar ein dyfodol. Dw i eisiau gwneud Cymru yn lle gwych i bobl ifanc fel bod ni’n gallu ffynnu. Dyna pam mai’r tri phwnc pwysig i mi yw addysg, iechyd meddwl a gwella gweithgareddau i bobl ifanc. Mae bod ar y cyngor disgyblion a’r senedd ieuenctid wedi rhoi ystod o sgiliau i mi a fyddai’n ddefnyddiol fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Ni yw’r dyfodol! Mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod ein lleisiau yn cael eu clywed, a dw i am wneud fy ngorau i wrando ar bawb yn yr etholaeth a gwneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Croeso i chi godi unrhyw beth a byddaf yn gwneud fy ngorau i weithio arno. Bydden i wrth fy modd o gael eich pleidlais.