Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Corbin Winter

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Housing / Tai

Mater o Bwys 2

Healthcare / Gofal iechyd

Mater o Bwys 3

Environment / Yr amgylchedd

CANDIDATE STATEMENT

As a young person who grew up in Wales and has lived here for 16 years, I care strongly about the future of my country. I believe I would be good for this role because of my amazing social skills which include being open to feedback and criticism, communication skills, and team-work skills. I will represent the Wrexham youth by regularly asking them what they think are the problems in our area. I will then bring the issues up in conversations with other youth parliament members. I could also have a social media presence where I would communicate the issues to the greater public in Wrexham or Wales. People should vote for me because I am passionate about my area and the country as a whole and I believe I can do a great job acting and speaking on the children of Wrexham's behalf.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel person ifanc a dyfodd i fyny yng Nghymru ac sydd wedi byw yma ers 16 mlynedd, dw i’n hidio’n fawr am ddyfodol fy ngwlad. Dw i’n credu y byddwn i’n dda ar gyfer y rôl yma oherwydd fy sgiliau cymdeithasol rhagorol sy’n cynnwys bod yn agored i adborth a beirniadaeth, sgiliau cyfathrebu, a sgiliau gweithio fel rhan o dîm. Bydda i’n cynrychioli pobl ifanc Wrecsam drwy ofyn iddyn nhw’n rheolaidd beth yw’r problemau yn ein hardal. Yna bydda i’n codi’r materion mewn sgyrsiau ag aelodau senedd ieuenctid eraill. Gallwn i hefyd gael presenoldeb cyfryngau cymdeithasol lle byddwn i’n cyfleu’r materion i’r cyhoedd yn Wrecsam neu yng Nghymru. Dylai pobl bleidleisio drosof i oherwydd fy mod i’n angerddol am fy ardal a’r wlad gyfan a dw i’n credu y galla i wneud gwaith gwych yn gweithredu ac yn siarad ar ran plant Wrecsam.