Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Gareth E Ellis

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Healthcare / Gofal Iechyd

Mater o Bwys 2

Transport / Trafnidiaeth

Mater o Bwys 3

Welsh language / Y Gymraeg

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to be a Welsh Youth Parliment member because l am keen to enable the voices of young people to be represented and positively impact my local area and Wales as a whole. I am a fluent Welsh speaker and attend a Welsh Secondary school. In addition to this, l am an Exlporer Scout and a member of the local basketball team. This gives me an opportunity to engage and connect with a wide variety of young people, to consult with and represent their voices. l am a worthy candidate for votes because l am hard working, fair, compassionate and keen to develop opportunities for young people. I feel that l would make a good Welsh Parliment member because l have experience of showing my resilience, tenacity and ability to work well as an individual and with diverse groups. These qualities are evidenced from achieving the Bronze Duke of Edinburgh award, the Chief Scout Platinum Award and the Chief Scout Gold award. I am also the Class Representative for the School Coucil.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n awyddus i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu cynrychioli, a dw i eisiau cael effaith bositif ar fy ardal leol a Chymru gyfan. Dw i’n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn mynd i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Hefyd, dw i’n Sgowt Archwilio ac yn aelod o’r tîm pêl-fasged lleol. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi gysylltu gydag ystod o bobl ifanc, i drafod a chynrychioli eu lleisiau. Dw i’n ymgeisydd teilwng oherwydd dw i’n gweithio’n galed, dw i'n deg ac yn dosturiol ac yn awyddus i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc. Dw i’n credu y bydden i’n aelod da o’r Senedd Ieuenctid oherwydd mae gen i brofiad o fod yn wydn, a dangos gallu i weithio’n dda fel unigolyn a grwpiau amrywiol. Tystiolaeth o hyn yw ennill gwobr Efydd Dug Caeredin, Gwobr Platinwm Prif Sgowt a’r wobr Aur Prif Sgowt. Dw i hefyd yn Gynrychiolydd Dosbarth ar y Cyngor Ysgol.