Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Noah Spragg

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Environment / Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Welsh language / Y Gymraeg

CANDIDATE STATEMENT

I want to make sure that the voices of young people in Wales are heard. I want to make people see that if you have a learning disability like autism like I do, you can do things with your life and be a valued member of society. I will use the ideas and concerns of young people in my area. Why should someone vote for me? To make sure that what young people want heard is heard and not ignored, to be a voice for those who feel ignored and for those who feel like Wales is on a downward projectiory. I will try my best to have your concern heard, understood and resolved in due time. My skills developed over the years of being on the school council have made me an observant leader, who hears everyone out and let's their voices be heard. My problem solving is stupendous one may say, you could put it down to my autism and ADHD. What I consider my greatest strength is my ability to see the good in everyone and to try and look at things from someone else's perspective.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc Cymru yn cael eu clywed. Dw i eisiau gwneud i bobl weld bod pobl gydag anabledd dysgu fel awtistiaeth fel fi yn gallu gwneud pethau gyda’u bywyd a bod yn aelod gwerthfawr o gymdeithas. Dw i’n mynd i ddefnyddio syniadau a phryderon pobl ifanc yn fy ardal. Pam ddylech chi bleidleisio drosof fi? Er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth mae pobl ifanc eisiau, a bod hynny ddim yn cael ei anwybyddu, ac i fod yn llais i’r rhai sy’n teimlo fel eu bod yn cael eu hanwybyddu a’r rhai sy’n meddwl bod Cymru’n gwaethygu’n gyson. Dw i’n mynd i wneud fy ngorau i wneud yn siŵr bod eich pryder yn cael ei glywed. Datblygodd fy sgiliau yn ystod fy amser ar y cyngor ysgol. Dw i’n arweinydd sy’n sylwi ar bethau, sy’n clywed pawb yn gadael i bawb gael llais. Byddai rhai’n dweud bod fy sgiliau datrys problemau yn ardderchog, oherwydd fy awtistiaeth ac ADHD. Yn fy marn i, fy nghryfder mwyaf yw fy ngallu i weld y da mewn pawb, a cheisio edrych ar bethau o safbwynt rhywun arall.