Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Carys Tomlinson

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Environment / Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Welsh Language / Y Gymraeg

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to be a member of the Welsh Youth Parliament because I would love the opportunity to influence change for the better in the subjects that I am passionate about.
If I get elected I would try and talk to young people at school and my clubs about their views on what is being discussed at the Senedd, so that I would be representing a variety of opinions of the young people in Wrexham.
I would be a good candidate as I have the confidence to stand up for what's right, share my opinions and listen to other people’s views and ideas and use these to promote positive change.
In my free time I enjoy playing drums in which I have performed at the Urdd Eisteddfod, going to my local theatre group, and thrive in such a situation. I also take part in Guides where I learn a variety of life skills. At school I am a member of the School Council and the Pwyllgor Cymraeg where we organize events for other students.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i wir eisiau’r cyfle i ddylanwadu newid er gwell yn y pynciau sy’n bwysig i mi.
Os byddaf fi’n cael fy ethol, bydden i’n ceisio siarad gyda phobl ifanc yn yr ysgol a chlybiau am eu barn ar beth sy’n cael ei drafod yn y Senedd, fel fy mod yn cynrychioli ystod o farn pobl ifanc Wrecsam.
Bydden i’n ymgeisydd da oherwydd dw i’n ddigon hyderus i sefyll i fyny dros yr hyn sy’n iawn, rhannu fy marn a gwrando ar farn a syniadau pobl eraill a defnyddio’r rhain i hyrwyddo newid positif.
Yn fy amser rhydd, dw i’n mwynhau chwarae’r drymiau a dw i wedi gwneud yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, dw i’n mynd i’r grŵp theatr lleol ac yn gwneud fy ngorau yn fanno. Dw i hefyd yn aelod o’r Guides lle dw i’n dysgu amrywiaeth o sgiliau bywyd. Yn yr ysgol, dw i’n aelod o’r Cyngor Ysgol a’r Pwyllgor Cymraeg lle rydyn ni’n trefnu digwyddiadau i ddisgyblion eraill.