Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Ken Antonio Chacin Arenas

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Public sports facilities / Cyfleusterau chwaraeon cyhoeddus

Mater o Bwys 2

Vaping bans / Gwahardd fêpio

Mater o Bwys 3

Mental health issues / Problemau iechyd meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

Within the community, there are many young people that have unheard voices that aren't acted upon. I aspire to change that fact by being their personal voices within Senedd to include everyone in choices conducted within Senedd. I often ask people for their opinions on different aspects of my school and if I am included within Senedd, I can ask them about the situation about Wales in general and represent them. I study Business, which I believe is a way for not just to see the economy and businesses, but also a way to view society in general, where there are many different aspects to maintain the country to balance each part out. And If I am voted, I believe I will be able to do the most a person can do within the role of a Welsh youth Parliament Member.

DATGANIAD YMGEISYDD

Yn y gymuned, mae llawer o bobl ifanc sy’n methu codi llais. Dw i eisiau newid hynny drwy fod yn llais iddyn nhw yn y Senedd i gynnwys pawb yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn y Senedd. Dw i’n aml yn gofyn i bobl am eu barn ar bethau gwahanol yn yr ysgol, ac os byddaf yn cael fy nghynnwys yn y Senedd, bydda’ i’n gallu gofyn iddynt am y sefyllfa yng Nghymru yn gyffredinol a’u cynrychioli nhw. Dw i’n astudio Busnes. Yn fy marn i mae hyn yn ffordd nid yn unig i weld yr economi a busnesau, ond hefyd cymdeithas yn gyffredinol, lle mae llawer o agweddau gwahanol sy’n cynnal y wlad i gydbwyso pob rhan. Os byddwch chi’n pleidleisio drosof fi, dw i’n credu fy mod i’n gallu gwneud popeth gall rhywun ei wneud yn rôl Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.