Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Kolo Rippon

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Children's mental wellbeing / Lles meddyliol plant

Mater o Bwys 2

Preserving the environment / Gwarchod yr amgylchedd

Mater o Bwys 3

Access to healthcare / Mynediad i ofal iechyd

DATGANIAD YMGEISYDD

I am a young person who recognizes that our voice is sometimes not heard, and I am ambitious and inspired to change this. Becoming a Welsh Youth Parliament Member would give me the platform to represent the views and concerns of young people in Wrexham and across Wales, ensuring that our voices are part of the decision-making process.

As a Welsh Youth Parliament Member, I would prioritize both in-person and online consultations. I understand that many young people prefer sharing their concerns online, so I would create accessible ways for them to reach out to me, ensuring all voices are represented.

I believe people should vote for me because I’ve faced challenges that have taken courage and determination to overcome. These experiences make me empathetic and ready to advocate for all young people.

As a member of Wrexham’s Youth Parliament, I am already driving change for young people. This experience has equipped me with the skills to be a strong voice in the Welsh Youth Parliament.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rydw i’n berson ifanc sy’n cydnabod nad yw ein llais yn cael ei glywed weithiau, ac mae gen i uchelgais i newid hynny. Bydd dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i mi gynrychioli barn a phryderon pobl ifanc yn Wrecsam ac ym mhob rhan o Gymru, gan wneud yn siŵr bod ein lleisiau yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.

Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, bydden i’n blaenoriaethu trafodaethau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Dw i’n deall ei bod hi’n well gan rai pobl ifanc rannu eu pryderon ar-lein, felly bydden i’n creu ffyrdd hygyrch iddyn nhw gysylltu â fi, gan wneud yn siŵr bod pob llais yn cael ei gynrychioli.

Dw i’n meddwl dylai pobl bleidleisio drosof fi oherwydd dw i wedi wynebu heriau. Roedd angen dewrder a bod yn benderfynol i oresgyn rhain. Mae’r profiadau hyn yn golygu fy mod i’n gallu dangos empathi ac yn barod i eirioli dros bob person ifanc.

Fel aelod o Senedd Ieuenctid Wrecsam, dw i’n newid pethau i bobl ifanc yn barod. Mae’r profiad hwn wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau i fod yn llais cryf ar Senedd Ieuenctid Cymru.