Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Millie Walker

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

School resources for autism / Adnoddau Ysgol ar gyfer Awtistiaeth

Mater o Bwys 2

Funding for Youth Groups / Cyllid i Grwpiau Ieuenctid

Mater o Bwys 3

Pressures of Social Media / Pwysau ar Gyfryngau Cymdeithasol

CANDIDATE STATEMENT

My name is Millie Walker, I want to become a member of the Welsh Youth Parliament to be a voice for others. I want people to be able to trust me with their ideas and make sure that these ideas are heard. I think I’d make a great member since I have the confidence to voice my opinions, and I always stay true to my beliefs. I’d like to become a voice for young people by making sure I listen to everything they have to say, no one should feel their views don’t matter or won’t be heard. I’m a Young Carer and if I became a member of the Welsh Youth Parliament, I would raise awareness and gain more funding for WCD Young Carers and any other support groups for children. Having a brother with autism and additional learning needs, I’d also like to help make Wales more inclusive for children like him. Vote for me so I can help more young people be heard.

DATGANIAD YMGEISYDD

Millie Walker ydw i, dw i eisiau dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i fod yn llais i bobl eraill. Dw i eisiau i bobl allu ymddiried ynof fi gyda’u syniadau a gwneud yn siŵr bod y syniadau’n cael eu clywed. Dw i’n meddwl bydden i’n aelod gwych oherwydd mae gen i’r hyder i leisio fy marn, a dw i bob amser yn dilyn fy nghredoau. Dw i eisiau dod yn llais i bobl ifanc drwy wneud yn siŵr fy mod i’n gwrando ar bopeth sydd ganddynt i’w ddweud, ni ddylai unrhyw un deimlo fel nad yw ei llais yn bwysig. Dw i’n Ofalwr Ifanc ac os bydden i’n dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, bydden i’n codi ymwybyddiaeth ac yn cael mwy o gyllid i WCD Young Carers ac unrhyw grwpiau cymorth eraill i blant. Gan fod gen i frawd gydag awtistiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol, dw i hefyd yn awyddus i helpu gwneud Cymru yn fwy cynhwysol i blant fel fe. Pleidleisiwch drosof fi er mwyn i mi allu helpu gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael eu clywed.