Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Zac Jones Prince

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

The environment / Yr amgylchedd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Healthcare / Gofal iechyd

DATGANIAD YMGEISYDD

I want to be a member of the Welsh Youth Parliament as I want mine and other’s concerns to be voiced, heard and actioned. I will take everyone’s issues seriously and ensure that something is done about all of them. The skills I possess are communication, listening and problem solving from being a member of many groups, including beekeeping, air cadets, my school’s student council and multi-award winning eco-taskforce. I also have experience challenging politicians from when I attended the 2023 Youth COP. Additionally, I’m taking business for my GCSE options which will give me a wide range of skills that can be used in politics, including leadership, adaptability and analytical reasoning.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod i eisiau i fy mhryderon i a rhai pobl eraill gael eu lleisio a’u clywed ac i gamau gael eu cymryd arnyn nhw. Bydda i’n cymryd materion pawb o ddifri ac yn sicrhau bod rhywbeth yn cael ei wneud am bob un. Y sgiliau dw i’n meddu arnyn nhw yw cyfathrebu, gwrando a datrys problemau o fod yn aelod o lawer o grwpiau, gan gynnwys gwenyna, cadetiaid awyr, cyngor myfyrwyr fy ysgol a eco-dasglu sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae gen i brofiad hefyd o herio gwleidyddion o’r adeg pan es i i COP Ieuenctid 2023. Ar ben hynny, dw i’n astudio busnes ar gyfer fy opsiynau TGAU a fydd yn rhoi ystod eang o sgiliau i mi sy’n gallu cael eu defnyddio ym maes gwleidyddiaeth, gan gynnwys arweinyddiaeth, y gallu i addasu a rhesymu dadansoddol.