Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mabli Vaterlaws

Mater o Bwys 1

The Welsh language / Y Gymraeg

Mater o Bwys 2

Culture / Diwylliant

Mater o Bwys 3

Education / Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

I am an excellent debater, and I have represented my school in public speaking, which means that I have the skills to speak eloquently and convincingly. I prioritise other people’s aspirations, rather than those adaptations that might benefit me. If elected, I would campaign for the arts to be given more attention in education, and for pupils to have more opportunities to visit museums and see shows.
The Welsh language is another issue I feel passionately about, and I am eager to see more opportunities to use the language in social and professional settings.
I enjoy socialising, and I have developed coaching skills during my work with the Urdd. To find out what the public wants, I would hold sessions with young people to discuss their views on politics and the Senedd.
I voice my opinions for the benefit of society; if you vote for me, you are sure to see change, socially and politically.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy'n ddadleuwraig o fri, ac wedi cynrychioli'r ysgol yn gwneud siarad cyhoeddus, sy'n golygu fy mod i efo'r sgiliau i allu siarad yn huawdl ac yn ddarbwylliadol. Rwy'n blaenoriaethu yr hyn mae eraill eisiau ei weld, yn hytrach na chanolbwyntio ar addasiadau sy'n fy manteisio i. Petawn i'n cael fy mhleidleisio, buaswn i'n ymgyrchu am fwy o sylw addysgiadol ar y celfyddydau, yn ogystal â theithiau diwylliannol i amgueddfeydd a sioeau i ddisgyblion. Mae'r Gymraeg hefyd yn bwnc rwy'n angerddol amdano, ac rwy'n frwdfrydig i weld mwy o ddefnydd ohono mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a phroffesiynol.
Rwy'n berson sy'n mwynhau cymdeithasu, gyda fy sgiliau hyfforddi wedi'u mireinio ar ôl gweithio efo'r Urdd, ac i ddarganfod dyheuadau'r cyhoedd, buaswn i'n cynnal sesiynau i bobl ifanc er mwyn trafod eu barnau nhw ar wleidyddiaeth a'r Senedd. Rwy'n lleisio fy marn er budd y gymdeithas; os bleidleisiwch amdanaf, mae'n sicr y bydd newid yn cael ei gweld, boed hynny'n gymdeithasol neu'n wleidyddol.