Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Timur Pashchenko
Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Education / Addysg
Welsh Language / Y Gymraeg
I am running for the Welsh Youth Parliament to improve the lives of young people in Wales because I felt like I need to return the favour by doing something for the wonderful people of Wales who accepted us, Ukrainians, in their own homes and made us feel at home in this beautiful country.
Sometimes, to understand what the best solution to a problem is, you need to look at it with fresh eyes, from the outside. I’m at that point now when I’m already settled here but still have fresh eyes.
I'm a passionate listener, you can tell me any concerns or questions you have. I’ll pass them to Parliament if elected. But not just this.
I am an empathetic person with whom you can talk about any of your issues, be it mental health, educational problems or safety concerns. I am good at analysing information and thus my decisions will be made rationally which is why you should vote for me.
Rydw i’n sefyll i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i wella bywydau pobl ifanc Cymru, oherwydd rydw i’n teimlo bod angen i mi dalu’n ôl drwy wneud rhywbeth i bobl hyfryd Cymru, wnaeth ein derbyn ni, pobl o Wcrain, i’w cartrefi a gwneud i ni deimlo’n gartrefol yn y wlad hardd hon. Weithiau, er mwyn deall beth yw’r datrysiad gorau i broblem, mae’n rhaid edrych arni eto o’r tu allan. Dw i ar y pwynt hwnnw nawr. Dw i wedi setlo yma, ond mae gen i lygaid ffres.
Rydw i’n wrandäwr astud, gallwch rannu unrhyw bryderon neu gwestiynau. Os caf fy ethol, byddaf yn eu rhannu â’r Senedd. Ond nid yn unig hyn.
Rydw i’n berson ag empathi a gallwch siarad am unrhyw broblem, boed e’n iechyd meddwl, problemau addysgol neu bryderon diogelwch. Rydw i’n dda am ddadansoddi gwybodaeth ac felly byddaf yn gwneud penderfyniadau rhesymol, dyma pam ddylech chi bleidleisio drosof fi.