Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Corey Jason Gunningham

Mater o Bwys 1

Health Care / Gofal iechyd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Transport / Trafnidiaeth

DATGANIAD YMGEISYDD

I am running to become an elected member of the Welsh Youth Parliament because I believe that with great dedication and perseverance I can help inspire and influence change not just for the young people of Wales but everyone in Wales. If elected I promise to meet with young individuals and their families to help show them that you can help influence change and that their voices are extremely valuable. whilst studying in school I was part of the fair trade council in primary school, then I moved on to become part of the main school council at my secondary school. I believe that I am a very strong minded ethical person. I believe that I will be able to help this generation to help grow and change our communities for the better. Please help me change Wales with your support and vote for me.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n sefyll i fod yn Aelod etholedig o’r Senedd Ieuenctid oherwydd fy mod i’n credu, gydag ymroddiad mawr a dyfalbarhad, y galla i helpu i ysbrydoli a dylanwadu ar newid i bawb yng Nghymru – nid dim ond y bobl ifanc. Os dw i’n cael fy ethol, dw i’n addo cwrdd ag unigolion ifanc a’u teuluoedd i helpu i ddangos iddyn nhw eich bod chi’n gallu helpu i ddylanwadu ar newid a bod eu lleisiau’n hynod werthfawr. Wrth astudio yn yr ysgol, roeddwn i’n rhan o’r Cyngor Masnach Deg yn yr ysgol gynradd. Yna symudais i ymlaen i fod yn rhan o’r prif gyngor ysgol yn fy ysgol uwchradd. Dw i’n credu fy mod i’n berson diysgog a moesegol iawn. Dw i’n credu y bydda i’n gallu helpu’r genhedlaeth hon i dyfu a newid ein cymunedau er gwell. Helpwch fi i newid Cymru gyda’ch cefnogaeth chi a phleidleisio drosof i.